Fel rhan o Ymgyrch Farchnata’r Gaeaf Llyfrgelloedd am Oes cynhaliwyd arddangosiadau coginio yn y Canolfannau Adnoddau Dysgu yn Aberhonddu, Llandrindod a’r Drenewydd, yn ogystal ag yng nghyntedd Y Drenewydd ar y Dydd Sadwrn Agored.
Thema’r arddangosfeydd oedd ‘Ffansi bod … myfyrwyr sy’n defnyddio’r llyfrgell yn cael llwyddiant ar eu cyrsiau’. Roedd yr arddangosfa’n canolbwyntio ar fanteision bwyta brecwast iach i gynyddu’r gallu a hefyd lles yr unigolyn.
Darparwyd yr arddangosfeydd gan Ddarlithwyr Arlwyo Coleg Powys ‘Arlwyo Tony Burgoyne a Shaun Bailey, sydd hefyd yn Gogydd yn Neuadd Llangoed.
Dywedodd y Rheolwr Adnoddau Dysgu Anne Jones: “Roedd myfyrwyr, staff ac ymwelwyr yn mwynhau’r sesiynau blasu ac yn gallu pori drwy ystod o lyfrau coginio a sgiliau a bywyd oedd wedi’i harddangos.”
Roedd y digwyddiadau yn rhan o ymgyrch genedlaethol sy’n un elfen o Lyfrgelloedd am Oes, raglen datblygiad strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer llyfrgelloedd yng Nghymru. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn buddsoddi £ 10.5 miliwn ar lyfrgelloedd rhwng 2008 a 2011.







