Cougars yn curo Coleg Sir Gar 37-7

Ar ôl  colli trwy drwch blewyn i dîm cyntaf Coleg Sir Gâr, croesawodd tîm pêl-rwyd Cougars Coleg Powys yr ail dîm o Goleg Sir Gâr ar gyfer yr hyn roeddent yn ei obeithio  byddai’n  gêm gystadleuol y byddai’r Cougars yn ei hennill trwy ychydig bwyntiau.

Cychwynnodd  y Cougars yn dda gyda  phasio a symudiadau da a roddodd llawer mwy o gyfleoedd i’w saethwyr nac i’w gwrthwynebwyr.

Erbyn hanner amser roedd y sgôr yn 13-3 i’r Cougars  Yn ystod hanner amser gwnaethpwyd pedwar newid i dîm y Cougars ac yn nhrydydd chwarter y gêm roeddent ar y blaen o 28 pwynt i 6.

Y sgôr terfynol oedd 37-7.

Gyda chystadleuaeth leol ar y gorwel yn erbyn Coleg  Crist, dylai’r tîm fod yn hyderus am ganlyniad gwell nag y cyfarfod cyntaf ym mis Tachwedd y llynedd.

Postiwyd hwn yn Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored, Pêl-rwyd a thagiwyd , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.