Dewis Pedwar Myfyrwyr ar gyfer Tîm Pêl-droed Merched Colegau Cymru

Dewiswyd pedwar o fyfyrwyr Chwaraeon Coleg Powys i chwarae yn nhîm Pêl-droed Merched Colegau Cymru a byddant yn chwarae yng ngem  Cymdeithas Pêl-droed Colegau Lloegr (ECFA) dydd Iau Chwefror 17eg yn Y Drenewydd.

Mae tri o’r myfyrwyr yn astudio yn y Drenewydd ac maent yn rhan o’r tîm academi pêl-droed. Maent hefyd yn chwarae i dîm merched Llanidloes. Y myfyrwyr yw Alex George, sy’n astudio Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth)  BTEC Diploma Estynedig Lefel 3, Muudeng Phaethaisong, sydd ar y cwrs BTEC Chwaraeon Diploma Estynedig a Nicky Bocking sy’n astudio trin gwallt. Lansiwyd yr academi bêl-droed i ferched ym mis Medi. Y myfyriwr arall yw Steph Hughson sy’n astudio Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff Diploma Estynedig Lefel 3 yn Aberhonddu.

Dywedodd Pennaeth Cyfadran Coleg Powys Sue Lloyd-Jones: “Dyma gyflawniad rhagorol ym mlwyddyn gyntaf yr academi bêl-droed i ferched. Mae hefyd yn wych gweld bod un o ddysgwyr Aberhonddu wedi ymuno a hwy. Mae gennym yr ail fintai fwyaf o unrhyw goleg yng Nghymru.”

Ychwanegodd y Prifathro, Simon Pirotte: “Rwyf wrth fy modd gyda chyflawniad Steph, Muudeng, Alex a Nicky. Maent yn fodelau rôl ardderchog ac yn profi bod gwaith caled ac ymroddiad yn  talu ar ei ganfed yn y diwedd. Mae’n gamp aruthrol i gynrychioli eich gwlad “.

Pêl-droed Colegau Cymru yw’r tîm cenedlaethol swyddogol ar gyfer chwaraewyr coleg addysg bellach. Mae’r chwaraewyr  gafodd eu dethol yn dilyn rhaglen debyg i’r hyn a ddilynir mewn  gemau rhyngwladol eraill, sy’n cynnwys gwersyll hyfforddi strwythuredig a ddilynir gan nifer o gemau capio rhyngwladol.

Postiwyd hwn yn Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored, Pêl-droed a thagiwyd , , , , , , , , , , , , , , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.