Gwestia Cinio Prentisiaeth yn y Coleg

Cynhaliwyd cinio ym Mwyty Themâu Coleg Powys ddydd Gwener diwethaf i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dathlu llwyddiannau Prentisiaid o Goleg Powys. Roedd yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau a drefnwyd  drwy gydol yr wythnos i ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau.

Roedd y rhan fwyaf o’r gwesteion naill ai wedi bod yn brentisiaid neu ar hyn o bryd yn cyflogi dysgwyr ar y rhaglen Sylfaen a’r rhaglen Prentisiaeth Fodern.

Croesawodd Pennaeth Coleg Powys Simon Pirotte pawb yn ei araith agoriadol a diolchodd  i bawb am ei presenoldeb. Traddodwyd sgwrs fer gan  Bill Brown o Makefast Cyf am y manteision i fusnes wrth gyflogi prentisiaid -  yn eu plith cyfrannu syniadau newydd, sgiliau hyfforddi cyfredol a dod a brwdfrydedd i’r gweithlu.

Roedd staff o Yrfa Cymru a Choleg Powys hefyd wrth law i ateb unrhyw gwestiynau am y  cyfleusterau a’r hyfforddiant sydd ar gael.

Mwynhaodd y gwesteion ginio tri chwrs a baratowyd gan fyfyrwyr Coginio Proffesiynol CGC Lefel 3 dan arweiniad Mandy Carter, darlithydd yn yr adran  a’r cogydd Gareth Jones o Westy’r Wynnstay ym Machynlleth. Myfyrwyr Gwasanaethau Croeso Lefel 2 oedd yn cyflawni’r dyletswyddau croesawu.

Postiwyd hwn yn Arlwyo a Lletygarwch, Dysgu Seiliedig ar Waith a thagiwyd , , , , , , , , , , , , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.