Lansio Learndirect yng Ngholeg Powys

I ddathlu lansiad learndirect yng Ngholeg Powys, mae staff Y Canolfannau Adnoddau Dysgu wedi mwynhau cyflwyno sesiwn adrodd straeon i blant mewn nifer o ysgolion cynradd ym Mhowys gan ddefnyddio’r llyfr learndirect o’r enw ‘I ble’r aeth yr afon?’.

Mae hwn yn llyfr anghyffredin i blant oherwydd ei fod yn llawn hwyl ar gyfer plant a rhieni, gyda phosau ar dudalennau -troi rhyngweithiol drwyddo draw!

Ymwelodd y staff ar Ysgolion Cynradd canlynol – Y Groes ger Llandrindod, Cynlais yn Ystradgynlais, Maesyrhandir yn y Drenewydd a Mount Street yn Aberhonddu. Byddant hefyd yn ymweld ag Ysgol Gynradd Llandrindod ar Lôn Cefnllys yr wythnos hon.

Yn Ysgol Gynradd Mount Street, Aberhonddu cyflwynodd pedwar o fyfyriwr Gofal Plant y sesiwn adrodd straeon ochr yn ochr â Catherine Clarke ac Angela Sharp staff Coleg Powys.

Derbyniodd y plant daleb ar gyfer eu rhieni i’w cyfnewid am gopi di-dâl o’r llyfr gan y Ganolfan Adnoddau Dysgu ar unrhyw un o safleoedd Coleg Powys. Yn ogystal â derbyn y llyfr di-dâl cynigwyd cwrs learndirect ar-lein yn ddi-dâl i’r rhieni.

Mae cyrsiau learndirect wedi’i rhannu’n gyfnodau dysgu byr sy’n eich galluogi i ddysgu ar eich cyflymder eich hun. Gan fod y cyrsiau ar-lein, gallwch eu hastudio ar amser ac mewn lle sy’n addas i chi neu ar eich safle leol o Goleg Powys lle bydd staff cyfeillgar yno i’ch cefnogi.

Dywedodd Rheolwr Adnoddau Dysgu Coleg Powys: “Mae gennym ystod eang o gyrsiau sydd ar gael ar bob lefel – p’un a ydych am wella eich Mathemateg neu Saesneg, datblygu sgiliau newydd mewn TG neu i ymdopi yn y gwaith gyda’r technegau rheoli diweddaraf, mae gennym gwrs sy’n addas i chi. ”

Am fanylion pellach am y cyrsiau sydd ar gael neu i gofrestru ar gwrs cysylltwch â Julie Jones drwy ffonio 0845 4086 511 neu danfonwch e-bost julie.jones@coleg-powys.ac.uk.

The staff and students who did the storytelling to pupils at Mount Street Primary School.  From left to right: student Emily Pfeiffer, student Amy Lloyd, staff member Catherine Clarke, staff member Angela Sharp, student Sophie Leach and student Ffion Boggust.

Postiwyd hwn yn Gwasanaethau Adnoddau Dysgu a thagiwyd , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.