Fel y gwyddoch, yn ddiweddar cyhoeddodd Leighton Andrews, y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, y byddai’r Cynllun Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) yn parhau yng Nghymru er ei fod wedi dod i ben yn Lloegr.
Mae’r cyfryngau cenedlaethol wedi sôn cryn dipyn am yr LCA yn dod i ben yn Lloegr, ac mae’r drafodaeth hon wedi creu dryswch ymhlith pobl ifanc a rhieni ynghylch dyfodol yr LCA yng Nghymru.
Mae’r dolenni isod yn mynd i gyfweliad diweddar rhwng y Gweinidog a disgybl mewn ysgol chweched dosbarth yng Nghymru. Yn y fideo mae’r Gweinidog a’r cyfwelydd yn trafod dyfodol yr LCA yng Nghymru yn ogystal â’r trefniadau newydd ar gyfer y rheini sy’n byw yng Nghymru ond yn astudio mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig.
Byddem yn ddiolchgar pe gallech rannu’r cyfweliad drwy unrhyw rwydweithiau e-bost, ei roi ar eich gwefan neu annog a chynghori pobl ifanc, yn enwedig y rheini ym Mlwyddyn 11, 12 a 13 yn eich ysgol neu goleg, i wylio’r cyfweliad drwy ddefnyddio’r gwahanol ddolenni yr ydym wedi’u darparu. Bydd yn rhoi gwybodaeth a sicrwydd iddynt am ddyfodol Cynllun LCA Cymru.
http://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/portal/page?_pageid=55,1835931&_dad=portal&_schema=PORTAL
http://www.youtube.com/watch?v=ytCfwsYkvjA&feature=channel
Cofion Cynnes
Brendan Murtagh
Rheolwr Cyllid Myfyrwyr
Yr Is-adran Ymgysylltu a Chyllid Myfyrwyr
Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Llywodraeth Cynulliad Cymru





