Russell George yn Ymweld â Myfyrwyr

Russell with wheel - Russell showing off his new skill of fitting a wheel on a vehicleYmwelodd yr Ymgeisydd Ceidwadol ar gyfer Sir Drefaldwyn yn etholiad y Cynulliad Russell George a myfyrwyr Cerbydau Modur a Pheirianneg yng Ngholeg Powys, y Drenewydd, fel rhan o Wythnos Prentisiaethau.

Cychwynnodd  Russell ei ymweliad drwy ateb cwestiynau wrth fyfyrwyr sy’n astudio ar gyrsiau  Cerbydau Modur a chyrsiau Peirianneg yn llawn amser. Roedd y cwestiynau yn ymwneud â materion cyfredol sydd o gonsyrn i fyfyrwyr a phreswylwyr lleol, gan gynnwys Lwfans Cynhaliaeth Addysg, cyflogaeth, cludiant, tanwydd ac iechyd.

Yna aeth ar daith o gwmpas y gweithdai Cerbydau Modur a chyfarfod â rhai o Brentisiaid Sylfaen mewn Cerbydau Modur o’r  flwyddyn gyntaf. Dangosodd y myfyrwyr iddo rai o’r sgiliau maent wedi eu dysgu ar y cwrs, gan gynnwys gosod olwyn ar gerbyd.

Dywedodd Russell: “Roedd yn wych i fedru gweithio gyda’r myfyrwyr Cerbydau Modur a Pheirianneg a deall sut y maent yn cymysgu gwaith cyflogedig gyda dysgu.”

Ychwanegodd: “Mae prentisiaethau yn ffordd ardderchog o ennill cymwysterau a phrofiad yn y gweithle ac mae manteision clir i weithwyr a chyflogwyr”.

Ar hyn o bryd mae gan y Coleg 120 o Brentisiaid Sylfaen a Modern a 35 o ddysgwyr Llwybrau i Brentisiaeth.

Os hoffech chi i recriwtio prentis neu gynnig prentisiaeth i’ch staff presennol, cysylltwch â 0845 4086 253.

Workshop - Russell with the first year Foundation Apprentices in Motor Vehicle and lecturer Brian James

Postiwyd hwn yn Cerbydau Modur, Dysgu Seiliedig ar Waith, Peirianneg a thagiwyd , , , , , , , , , , , , , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.