Diwrnod Mwytho ar gyfer Gofalwyr Powys

Ar ddydd Mawrth 22 Mawrth cynhaliodd yr Adran Gwallt a Harddwch yng Ngholeg Powys, y Drenewydd ddiwrnod mwytho ar gyfer Gofalwyr Powys.

Cafodd y merched driniaethau gwallt, coluro a thriniaethau dwylo trwy gydol y dydd. Darparwyd cinio gan yr adran Arlwyo a Lletygarwch a mwynhawyd y diwrnod gan y merched. Roeddent i gyd yn cytuno bod y diwrnod yn gymaint o newid iddynt gan fod llawer ohonynt yn methu â mynd allan oherwydd eu bod yn gofalu am berthnasau yn y cartref.

Pamper Day for Powys Carers

Postiwyd hwn yn Therapi Harddwch, Trin Gwallt a thagiwyd , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.

Prifathro Coleg yn Rhybuddio am y Draen Ymenyddol wrth i Ddysgwyr Droi eu Cefnau ar Bowys

Principal Simon PirotteSymudodd Simon Pirotte Prifathro Coleg Powys, y drafodaeth ynghylch Moderneiddio Ysgolion ymlaen heddiw gyda’i gyfraniad cyhoeddus cyntaf di-flewyn ar dafod i’r ymgynghoriad. Ynghyd â swyddogion y Cyngor Sir, Mr Pirotte wedi mynychu nifer o gyfarfodydd cyhoeddus ar foderneiddio ysgolion. Mae’r digwyddiadau wedi denu llawer o sylw’r Cyfryngau a’r Cyhoedd mynegwyd llawer iawn o bryder ynghylch dyfodol Ysgolion Uwchradd Powys. Dywedodd Mr Pirotte; “Rwyf wedi cael argraff ffafriol iawn o’r ymrwymiad a’r cymorth a ddangoswyd gan y cymunedau lleol tuag at eu hysgolion, ond mae yna berygl – a’r perygl yw hyn: bydd ein pobl ifanc yn encilio o’r ysgolion a’r colegau lleol er mwyn medru dewis cwricwlwm ehangach a mwy amrywiol dros y ffin o Bowys. Mis Medi diwethaf roedd dros 250 o bobl ifanc 16 oed wedi dewis gadael y Sir i astudio, ac roedd cyfran sylweddol o’r rhain yn fyfyrwyr Safon Uwch disglair a thalentog. Os ychwanegwn y nifer fras a adawodd y flwyddyn cynt ac sydd bellach ar eu hail flwyddyn, mae hyn yn bum cant o fyfyrwyr. Mae pum cant o fyfyrwyr yn rif uchel i adael Sir megis Powys.”

Ychwanegodd Mr Pirotte ymhellach;

“Rhaid i ni gymryd y cyfle i foderneiddio er mwyn darparu’r ystod lawn o gyfleoedd ar gyfer y pum cant o ddysgwyr yma, sydd ar garreg ein drws, ym Mhowys. Ni ddylai pobl ifanc deimlo bod yn rhaid iddynt adael yr ardal er mwyn cael mynediad i ystod lawn a chyffrous o gyrsiau ac adnoddau. Os ydym yn gwneud dim, bydd ein rhifau’n edwino a bydd y dewis cwricwlaidd yn crebachu. Mae’n rhaid i ni fanteisio ar y cyfle hwn i ddod â’n cryfderau at ei gilydd, i rannu ein hadnoddau ac i weithio ar y cyd. Os gwneir hyn , byddwn yn medru adeiladu system addysg fydd ag adnoddau ardderchog ac yn gyfoethog o ran dewis ac amrywiaeth.”

Postiwyd hwn yn Uncategorized a thagiwyd , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.

Gweithdai Crefft Siwgr

Oherwydd poblogrwydd  y gweithdy Crefft Siwgr a gynhaliwyd yng Ngholeg Powys Y Drenewydd ym mis Chwefror penderfynwyd cynnig mwy o weithdai. Cynhelir y rhain ar ddydd Mawrth Ebrill 14eg neu ddydd Mercher Ebrill 20fed rhwng 9.30yb a 3.30yp. Y gost fydd £15 y diwrnod ynghyd a thal bychan am unrhyw ddeunyddiau a brynir oddi wrth y tiwtor. Thema’r diwrnod fydd Astromeria neu Lili Periw.

I gael manylion pellach ac i gofrestru ffoniwch Goleg Powys ar 0845 4086 299.

Postiwyd hwn yn Addysg Oedolion a Chymunedol a thagiwyd , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.

Estyniad i’r Cyfnod Ymgynghori ar Addysg Uwchradd ac Ôl-16

Cyhoeddodd Cyngor Sir Powys a Choleg Powys bod y cyfnod ar gyfer ymateb i’r ymgynghoriad ar addysg Uwchradd ac Ôl – 16 wedi’i ymestyn am gyfnod o fis.

Mae hyn yn ganlyniad i’r broses o aildrefnu’r cyfarfodydd cyhoeddus yn Aberhonddu, Gwernyfed, Llanfyllin a Llanfair Caereinion. 

Y dyddiad cau newydd yw dydd Llun Mehefin 6, 2011. Bydd y cyfarfodydd a aildrefnwyd yn digwydd ddechrau Mai.  

Mae’r cyfarfodydd cyhoeddus yn yr ardaloedd hyn wedi ‘i aildrefnu fel a ganlyn:

  • Dydd Mawrth 3 Mai – Ysgol Uwchradd Aberhonddu
  • Dydd Mercher Mai 4ydd – Ysgol Uwchradd Llanfyllin
  • Dydd Mawrth Mai 10fed – Canolfan Hamdden Caereinion, Llanfair Caereinion
  • Dydd Mercher Mai 11eg – Ysgol Uwchradd Gwernyfed

Cynhelir pob cyfarfod am 6.30pm.

Mae’r cyngor a’r coleg yn cynnal yr ymgynghoriad oherwydd  fel cynghorau eraill Cymru a cholegau addysg bellach, edrych ar y ffordd orau i adeiladu ar y safonau presennol gyda llai o gyllid yn y dyfodol. Nid yw’r cyngor yn cynnwys yr opsiwn o gau unrhyw safle ysgol uwchradd yn y cyfnod ymgynghoriad anffurfiol presennol ond yn hytrach  edrych ar opsiynau eraill ar gyfer gwneud addysg  yn gynaliadwy ‘n ariannol am ddegawdau i ddod.

Mae’r holl  fanylion am y rhaglen, gan gynnwys y ddogfen ymgynghori ac arolwg a dyddiadau’r cyfarfodydd  cyhoeddus i gyd i’w gweld ar www.powys.gov.uk/schoolmodernisation.

Postiwyd hwn yn Uncategorized a thagiwyd , , , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.

Sioe Dalent er budd Comic Relief

Cynhaliodd Coleg Powys fersiwn eu hunain o ‘Mae gan Brydain Dalent’ ar gyfer holl staff a myfyrwyr y Coleg dydd Iau Mawrth 17eg yn Theatr Hafren Y Drenewydd.

Cafodd y cyhoedd i wahodd i ddod i weld y dalent wych ac amrywiol sydd yn y coleg. Aeth holl elw’r noson i Comic Relief.

Roedd pob un o adrannau’r coleg ynghyd ar eitemau oedd yn rhan o’r noson, a phawb a oedd wedi bod yn gysylltiedig â’r trefniadau wedi gweithio’n hynod o galed i sicrhau noson wych o adloniant i bawb.

Arweiniwyd y noson yn ddeheuig gan Susan Blower a Harry Marlowe. Beirniadwyd y cystadlaethau gan banel o feirniaid oedd yn cynnwys Simon Pirotte, Pennaeth Coleg Powys, Joy Jones, Maer Y Drenewydd, Carl Edwards o Newyddion HTV a Russ Evans Cyfarwyddwr Cwmni Theatrig Lleol. Bydd Russ yn ymddangos yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn ddiweddarach eleni.

Aeth y wobr gyntaf i Holli Osborne, myfyrwraig Gofal Dysg a Datblygiad Plant yn Aberhonddu am ei pherfformiad o gân. Enillwyd yr ail wobr gan Fad Lab, grŵp cymysg o ddawnswyr sydd yn fyfyrwyr yn yr adran Celfyddydau Perfformio yn Y Drenewydd. Dyfarnwyd y drydedd wobr i i Boylesque, grŵp dawns dynion sydd hefyd yn fyfyrwyr y Celfyddydau Perfformio yn Y Drenewydd.

Rhoddwyd canmoliaeth uchel i’r holl gystadleuwyr am berfformiadau gwych. Mae’r swm a godwyd ar y noson hyd yma dros £1000.

Postiwyd hwn yn Celfyddydau Perfformio, Elusen a thagiwyd , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.

Gweithdy Coginio Tai yn Aberhonddu

Thai CookeryCynhelir gweithdy Coginio Tai yng Nghanolfan Ieuenctid Aberhonddu ar ddydd Sadwrn Mawrth 26ain rhwng 10.00yb a 3.00yp. Mae’r gweithdy’n costio £ 15 y person ynghyd a swm bychan am y cynhwysion.

Mae’n hanfodol archebu lle ymlaen llaw felly ffoniwch 0845 4086 299 i gael unrhyw wybodaeth bellach neu i archebu eich lle.

Gweler yr holl gyrsiau coginio, arlwyo a lletygarwch yng Ngholeg Powys

Postiwyd hwn yn Addysg Oedolion a Chymunedol, Arlwyo a Lletygarwch a thagiwyd , , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.

Her Sgiliau Adeiladu Rownd Derfynol Ranbarthol yng Ngholeg Powys

Roedd Coleg Powys yn falch i gynnal un o’r rowndiau terfynol rhanbarthol ar gyfer Her Sgiliau Adeiladu Cymru ar Fawrth 2ail.

Roedd myfyrwyr o bob cwr o Gymru, gan gynnwys Coleg Powys ei hun, yn cystadlu mewn Gosod Briciau, Paentio ac Addurno, Gwaith Coed a Phlastro. Roedd yna gystadleuaeth i ddau grŵp o wahanol oedran, 14-16 a 16-19. Dechreuodd y gystadleuaeth am 9.30yb yng Ngholeg Powys, y Drenewydd a pharhau trwy gydol y dydd.

Roedd y safonau’n uchel iawn ac roedd y myfyrwyr o bob un o’r colegau oedd yn cymryd rhan wedi bod yn ymarfer yn galed. Bydd yr enillwyr o’r pedair ardal yn mynd ymlaen i gystadlu yn y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol.

Ymhlith yr enillwyr o Goleg Powys roedd Tom Griffiths – 1af yn y categori 14-16 Adeiladu a James Bevan – 1af yn y categori Paentio ac Addurno.

Dywedodd Pennaeth y Gyfadran yng Ngholeg Powys, Steve Cass “Mae hwn yn gyfle gwych i hyrwyddo gyrfaoedd yn y diwydiant adeiladu ac i arddangos rhai o fyfyrwyr adeiladu ifanc Cymru. Mae’r cystadleuwyr yma yn grefftwyr yfory.”

Tom Griffiths being awarded 1st in 14-16 ConstructionJames Bevan being awarded 1st in Painting and Decorating

Postiwyd hwn yn Crefftau Adeiladu. Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.

Creu Delwedd

Mae myfyrwyr trin gwallt Lefel 2 ar safle Llandrindod yn cyflwyno arddangosfa o’u gwaith, ‘Creu Delwedd’, sy’n seiliedig ar thema o fewn y sector gwallt a harddwch. Bydd pob myfyriwr ag ardal thema  ei hunain a thri model.

Cynhelir yr arddangosfa dydd Mawrth 22 Mawrth, rhwng 4.00 – 5.30pm, yn y Brif Neuadd ar safle Llandrindod. Dewch draw i weld eu gwaith. Lluniaeth ar gael.

Postiwyd hwn yn Trin Gwallt a thagiwyd , , , , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.

Her Coleg Powys

Trefnodd  Coleg Powys yr  her ar Ddydd Gŵyl Dewi i godi arian i Gymorth Canser Macmillan. Yr her oedd triathlon o’r Gogledd i Dde Powys, gydag un neu ddau o wahaniaethau. Dim ond tri o bobloedd yn cwblhau’r her ddaearyddol (Cymrodyr Y Coleg)  sef ymweld â phob safle un o safleoedd y Coleg a chyflwyno Cennin Pedr. Roedd y rhan fwyaf o’r cystadlaethau yn digwydd yn y gampfa.

Amcanion y sialens oedd codi cymaint o arian â phosibl i elusen, i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, ac i gael myfyrwyr a staff yn actif.

Roedd y daith  yn cynnwys beicio 32 milltir o gampws Y Drenewydd i Lanfair ym Muallt (gan alw yng nghampws Llandrindod), canŵio 8 milltir o Lanfair ym Muallt i Erwyd mewn canŵ Canada, rhedeg 10 milltir o Erwyd i Felin-fach ac yn olaf, seiclo 30 milltir o Felin Fach i Ystradgynlais (gan alw yng nghampws Aberhonddu).

Y bobl gymrodd ran yn yr her ddaearyddol oedd Ian Millward (Pennaeth Cynorthwyol y De ), Andrew Davies (Darlithydd Chwaraeon) a Ollie Sims. Llwyddwyd i gwblhau’r her mewn 8 awr 10 munud a 6eiliad.

Ymunodd myfyrwyr o bob safle Coleg yn yr her – diolch i gefnogaeth  Canolfan Hamdden Maldwyn a  Chanolfan  Hamdden Aberhonddu.

Llwyddodd  y cystadleuwyr yn y gampfa i orffen gydag amseroedd yr un mor nodedig:
Y Drenewydd – 5awr  39munud 26eiliad
Llandrindod – 6 awr 7munud 47eiliad
Aberhonddu 7awr 10 munud 12eiliad

Postiwyd hwn yn Elusen a thagiwyd , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.

Sioe Ffasiwn er budd Ambiwlans Awyr Cymru

Cynhaliwyd sioe ffasiwn Y Casgliad Eithaf yn Theatr Hafren dydd Gwener 11 Chwefror, 2011. Trefnwyd y sioe  gan fyfyrwyr Busnes BTEC o Goleg Powys Y Drenewydd fel rhan o’u cwrs.

Roedd y noson yn llwyddiant ysgubol gyda thua 200 o bobl yn mwynhau amrywiaeth eang o ffasiwn a ddarparwyd gan saith o fan werthwyr sydd i gyd wedi’u lleoli yn y Drenewydd; New Look, Clubsport, Ann’s, Tesco, Air Outdoors, Peacocks a Celtic Brides. Cyflenwyd blodau ar gyfer Celtic Brides gan Bloomers Florists o’r Drenewydd.

Roedd y dillad a ymddangosodd yn y sioe  ar gyfer pob cyllideb yn amrywio o blant, pobl yn eu harddegau, merched a dynion, gwisgoedd chwaraeon, gwisgoedd  awyr agored a gwisgoedd  priodas a gwisgoedd ar gyfer digwyddiadau gyda’r nos. Darparodd Celtic Brides Bloomers a Air Outdoors standiau ar y noson.

Nod y digwyddiad oedd codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru, ac i hyrwyddo ffasiwn sydd ar gael yn yr ardal, yn ogystal ag ymdrin ag amrywiol agweddau o’r cwrs busnes megis Rheoli Digwyddiad, Datblygu Tîm a Sgiliau Allweddol Gweithio gydag Eraill a Gwella Dysgu eich Hun.

Recriwtiwyd y Modelau o fewn y coleg – yn eu plith myfyrwyr o’r cyrsiau Celfyddydau Perfformio, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gofal Plant a Phaentio ac Addurno. Roedd aelodau o’r staff hefyd yn fodelau  ynghyd â’u plant a pherthnasau’r trefnwyr. Darparwyd modelau  hefyd gan Ann’s.

Darparodd myfyrwyr trin gwallt a harddwch a’r staff steiliau gwallt a cholur o safon anhygoel ar gyfer y modelau. Darparodd y Footloose Dance Troupe rhai dawnsfeydd ysblennydd yn ystod y sioe. Dywedodd Ann Lewis o Ambiwlans Awyr Cymru ychydig eiriau a hefyd Simon Pirotte Pennaeth y coleg. Cynhaliwyd raffl ar ddiwedd y sioe.

Dywedodd Liz Ashton Tiwtor y Cwrs: “Gweithiodd y myfyrwyr busnes yn hynod o galed am  fisoedd ymlaen llaw i baratoi ar gyfer y sioe, ac ar y noson roedd eu cyfraniad ar flaen a chefn y llwyfan yn rhagorol”.

Codwyd cyfanswm o £936.19.ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Postiwyd hwn yn Busnes a Gweinyddiaeth, Celfyddydau Perfformio, Elusen, Gofal Plant, Trin Gwallt a thagiwyd , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.

Myfyrwyr yn Trosglwyddo Materion Iechyd Allweddol

Mae myfyrwyr Astudiaethau Iechyd yng Ngholeg Powys Y Drenewydd wedi cynnal amrywiaeth o weithgareddau cyffrous fel rhan o’u huned Addysg Iechyd.

Ar Ddiwrnod San Ffolant bu  myfyrwyr blwyddyn un yn cynnal diwrnod ar ryw ddiogel gyda chwisiau a chystadlaethau oedd yn  cyfleu negeseuon iechyd allweddol mewn ffordd hwyliog a chyffrous i bobl yn eu harddegau. Yn ogystal cynhaliwyd stondin gacennau i godi arian.

Mae Grŵp arall o fyfyrwyr yn cynnal ymgyrch i hysbysu a lleihau’r stigma sydd yng nglŵm wrth faterion iechyd meddwl, fel Iselder, Anhwylderau Bwyta a Haenodd.

Roedd yr ymgyrchoedd wedi ‘i gynllunio’n ofalus i gydweddu a strategaethau iechyd, ac i gysylltu â’r ffynonellau cynghori a chefnogaeth i fyfyrwyr. Mae’r myfyrwyr wedi gweithio gyda gweithwyr proffesiynol o’r tu allan ac wedi defnyddio  a dulliau newydd ac arloesol yn ogystal ag arddangosfeydd bywiog o gwmpas y Coleg.

Chwilio Cynhyrchwyd tudalennau Facebook hefyd sy’n gyswllt o  dudalen  Facebook y Coleg a rhoddwyd cwisiau rhyngweithiol ar safle Moodle y Coleg; dyma’r tro cyntaf i fyfyrwyr ddatblygu a golygu cynnwys y we yn y modd yma.

Health Studies students at the cake stall

Tudalennau Facebook Myfyrwyr/Cymwysiadau:

Croen dwfn
Bod fy hun
Mae pawb yn delio gyda Phroblemau mewn Ffyrdd gwahanol…
Bod a Pharch tuag at Ofalwyr Ifanc!
Carwch eich Troeon!
Gall pobl ifanc fod o dan Straen yn ogystal ag Oedolion…
Trowch Y Cuwch Yna Ben i Waered :)

Postiwyd hwn yn Elusen, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a thagiwyd , , , , , , , , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.

Pencampwriaeth Draws Gwlad Powys

Bu myfyrwyr Coleg Powys Y Drenewydd yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Traws Gwlad Powys ym Mharc Dolerw, Y Drenewydd yn ddiweddar. Bu’r myfyrwyr yn cystadlu yng nghategorïau’r merched hyn a’r bechgyn hyn.

Llwyddodd  pump o fechgyn i orffen mewn safleoedd da yn dda. Daeth Joe Evans, sy’n astudio Diploma Estynedig BTEC Chwaraeon Lefel 3 (Academi Pêl-droed), yn gyntaf, a Ieuan Price, sy’n astudio Diploma Cenedlaethol BTEC Celf a Dylunio, yn drydydd. Daeth Shane Swanton sy’n  astudio Diploma Estynedig BTEC Chwaraeon Lefel 3 (Academi Pêl-droed), yn seithfed. Roedd James Roberts sydd hefyd yn astudio Diploma Estynedig BTEC Chwaraeon Lefel 3 (Academi Pêl-droed) yn nawfed a Rob Matthews, sy’n astudio ar y cwrs Fusion, yn safle un ar ddeg.

Roedd dwy  ferch cystadlu hefyd; Daeth Clara Bright yn drydydd ac roedd Tara Swanton yn rhedeg yn dda iawn ond cafodd  broblemau gyda ‘i asthma, ac ni lwyddodd i orffen. Mae’r ddau yn astudio’r Diploma Estynedig BTEC Chwaraeon Lefel 3.

Postiwyd hwn yn Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored a thagiwyd , , , , , , , , , , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.

Her Coleg Powys

Mae Coleg Powys yn trefnu her ar gyfer  Ddydd Gŵyl Dewi i godi arian i Gymorth Canser Macmillan. Yr her yw triathlon o’r Gogledd i’r De Powys gydag un neu ddau o wahaniaethau. Dim ond tri o bobl fydd yn  ymgymryd â’r her ddaearyddol (Y Cymrodyr Coleg), a fydd yn ymweld â phob un o safleoedd y Coleg ac yn cyflwyno daffodil. Bydd y rhan fwyaf o’r cystadleuwyr yn cymryd rhan yng ngweithgareddau’r gampfa.

Amcanion yr her yw codi cymaint o arian â phosibl i elusen, i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, ac i gael myfyrwyr a staff i fod yn actif.

Bydd y daith yn cynnwys beicio 32 milltir o gampws Y Drenewydd i Lanfair ym Muallt (heibio campws Llandrindod), canŵio 8 milltir o Lanfair ym Muallt i Erwyd mewn canŵ Canada, yna rhedeg 10 milltir o Erwyd i Felin Fach ac yn olaf, seiclo 30 milltir o Felin Fach i Ystradgynlais (heibio campws Aberhonddu).

Y bobl sy’n cymryd rhan yn yr her ddaearyddol hon yw Ian Millward (Pennaeth Cynorthwyol y De), Andrew Davies (Darlithydd Chwaraeon) a Ollie Sims.

Bydd myfyrwyr o bob un o safleoedd  y Coleg yn ymuno yn y sialens diolch i gefnogaeth Canolfan Hamdden Maldwyn a Chanolfan Hamdden Aberhonddu. Gall cystadleuwyr yn y gampfa ffurfio timau o unrhyw nifer gyda phob unigolyn yn gwneud cymaint neu gyn lleied mae ef neu hi yn dymuno.

Bydd yr her yn cychwyn am 9yb ar ddydd Mawrth 1af Mawrth. Bydd angen i’r  timau sy’n cystadlu i guro cyfartaledd amser Cymrodyr y Coleg i ennill y sialens.

Postiwyd hwn yn Elusen a thagiwyd , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.

Y Pennaeth yn Profi Gwaith Fferm

Cafodd Pennaeth y Coleg Powys Simon Pirotte brofiad o waith fferm yr wythnos ddiwethaf, fel rhan o Wythnos Prentisiaethau.

Treuliodd Simon y bore yn gweithio ochr yn ochr Prentis Amaeth Sylfaen Lefel 2 William Jones yn ei, leoliad gwaith ar Fferm Llysun, Llanerfyl ger y Trallwng.

Cymerodd y Pennaeth rhan mewn nifer o dasgau gan gynnwys arolygu gwartheg tan do, bwydo silwair i ddefaid dan do, bwydo dwysfwydydd i  ddefaid yn yr awyr agored cynorthwyo i symud defaid mewn i gae, gwylio’r gwaith o adeiladu sied wartheg newydd yn mynd yn ei flaen ar y fferm. Mi dreuliodd beth amser hefyd yn  trafod y Brentisiaeth mewn Amaethyddiaeth gyda Richard Tudor, sy’n cyflogi William ac yn bartner yn y busnes fferm.

Dywedodd Simon: “Roedd hwn yn brofiad gwych. Roedd hefyd yn wych i weld y fath partneriaeth gref rhwng y Coleg a chyflogwr  lleol. Mae William yn fyfyriwr hyderus a medrus. Mae’n amlwg wedi elwa o fewnbwn dosbarth cyntaf ei darlithwyr ai gyflogwr. Hoffwn ddiolch i Richard Tudor am ganiatáu imi dreulio rhywfaint o amser ar ei fferm. ”

Roedd Glyn Roberts, un o gyn-fyfyrwyr Amaethyddiaeth Coleg Powys, gyda Simon hefyd ar ran o’r ymweliad. Mae wedi gweithio  ar fferm y Tuduriaid am ddeng mlynedd ar hugain, tra’n raddol adeiladu busnes  ffermio ei hun. Yn awr mae  ond yn cynorthwyo’r Tuduriaid yn rhan-amser ar adegau prysur.

Simon feeding the sheep on the hill

Simon feeding the sheep on the hill

Postiwyd hwn yn Amaethyddiaeth a Pheiranneg Amaethyddol, Dysgu Seiliedig ar Waith a thagiwyd , , , , , , , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.