Her Coleg Powys

Mae Coleg Powys yn trefnu her ar gyfer  Ddydd Gŵyl Dewi i godi arian i Gymorth Canser Macmillan. Yr her yw triathlon o’r Gogledd i’r De Powys gydag un neu ddau o wahaniaethau. Dim ond tri o bobl fydd yn  ymgymryd â’r her ddaearyddol (Y Cymrodyr Coleg), a fydd yn ymweld â phob un o safleoedd y Coleg ac yn cyflwyno daffodil. Bydd y rhan fwyaf o’r cystadleuwyr yn cymryd rhan yng ngweithgareddau’r gampfa.

Amcanion yr her yw codi cymaint o arian â phosibl i elusen, i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, ac i gael myfyrwyr a staff i fod yn actif.

Bydd y daith yn cynnwys beicio 32 milltir o gampws Y Drenewydd i Lanfair ym Muallt (heibio campws Llandrindod), canŵio 8 milltir o Lanfair ym Muallt i Erwyd mewn canŵ Canada, yna rhedeg 10 milltir o Erwyd i Felin Fach ac yn olaf, seiclo 30 milltir o Felin Fach i Ystradgynlais (heibio campws Aberhonddu).

Y bobl sy’n cymryd rhan yn yr her ddaearyddol hon yw Ian Millward (Pennaeth Cynorthwyol y De), Andrew Davies (Darlithydd Chwaraeon) a Ollie Sims.

Bydd myfyrwyr o bob un o safleoedd  y Coleg yn ymuno yn y sialens diolch i gefnogaeth Canolfan Hamdden Maldwyn a Chanolfan Hamdden Aberhonddu. Gall cystadleuwyr yn y gampfa ffurfio timau o unrhyw nifer gyda phob unigolyn yn gwneud cymaint neu gyn lleied mae ef neu hi yn dymuno.

Bydd yr her yn cychwyn am 9yb ar ddydd Mawrth 1af Mawrth. Bydd angen i’r  timau sy’n cystadlu i guro cyfartaledd amser Cymrodyr y Coleg i ennill y sialens.

Postiwyd hwn yn Elusen a thagiwyd , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.