Roedd Coleg Powys yn falch i gynnal un o’r rowndiau terfynol rhanbarthol ar gyfer Her Sgiliau Adeiladu Cymru ar Fawrth 2ail.
Roedd myfyrwyr o bob cwr o Gymru, gan gynnwys Coleg Powys ei hun, yn cystadlu mewn Gosod Briciau, Paentio ac Addurno, Gwaith Coed a Phlastro. Roedd yna gystadleuaeth i ddau grŵp o wahanol oedran, 14-16 a 16-19. Dechreuodd y gystadleuaeth am 9.30yb yng Ngholeg Powys, y Drenewydd a pharhau trwy gydol y dydd.
Roedd y safonau’n uchel iawn ac roedd y myfyrwyr o bob un o’r colegau oedd yn cymryd rhan wedi bod yn ymarfer yn galed. Bydd yr enillwyr o’r pedair ardal yn mynd ymlaen i gystadlu yn y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol.
Ymhlith yr enillwyr o Goleg Powys roedd Tom Griffiths – 1af yn y categori 14-16 Adeiladu a James Bevan – 1af yn y categori Paentio ac Addurno.
Dywedodd Pennaeth y Gyfadran yng Ngholeg Powys, Steve Cass “Mae hwn yn gyfle gwych i hyrwyddo gyrfaoedd yn y diwydiant adeiladu ac i arddangos rhai o fyfyrwyr adeiladu ifanc Cymru. Mae’r cystadleuwyr yma yn grefftwyr yfory.”







