Mae myfyrwyr Astudiaethau Iechyd yng Ngholeg Powys Y Drenewydd wedi cynnal amrywiaeth o weithgareddau cyffrous fel rhan o’u huned Addysg Iechyd.
Ar Ddiwrnod San Ffolant bu myfyrwyr blwyddyn un yn cynnal diwrnod ar ryw ddiogel gyda chwisiau a chystadlaethau oedd yn cyfleu negeseuon iechyd allweddol mewn ffordd hwyliog a chyffrous i bobl yn eu harddegau. Yn ogystal cynhaliwyd stondin gacennau i godi arian.
Mae Grŵp arall o fyfyrwyr yn cynnal ymgyrch i hysbysu a lleihau’r stigma sydd yng nglŵm wrth faterion iechyd meddwl, fel Iselder, Anhwylderau Bwyta a Haenodd.
Roedd yr ymgyrchoedd wedi ‘i gynllunio’n ofalus i gydweddu a strategaethau iechyd, ac i gysylltu â’r ffynonellau cynghori a chefnogaeth i fyfyrwyr. Mae’r myfyrwyr wedi gweithio gyda gweithwyr proffesiynol o’r tu allan ac wedi defnyddio a dulliau newydd ac arloesol yn ogystal ag arddangosfeydd bywiog o gwmpas y Coleg.
Chwilio Cynhyrchwyd tudalennau Facebook hefyd sy’n gyswllt o dudalen Facebook y Coleg a rhoddwyd cwisiau rhyngweithiol ar safle Moodle y Coleg; dyma’r tro cyntaf i fyfyrwyr ddatblygu a golygu cynnwys y we yn y modd yma.

Tudalennau Facebook Myfyrwyr/Cymwysiadau:
Croen dwfn
Bod fy hun
Mae pawb yn delio gyda Phroblemau mewn Ffyrdd gwahanol…
Bod a Pharch tuag at Ofalwyr Ifanc!
Carwch eich Troeon!
Gall pobl ifanc fod o dan Straen yn ogystal ag Oedolion…
Trowch Y Cuwch Yna Ben i Waered





