Bu myfyrwyr Coleg Powys Y Drenewydd yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Traws Gwlad Powys ym Mharc Dolerw, Y Drenewydd yn ddiweddar. Bu’r myfyrwyr yn cystadlu yng nghategorïau’r merched hyn a’r bechgyn hyn.
Llwyddodd pump o fechgyn i orffen mewn safleoedd da yn dda. Daeth Joe Evans, sy’n astudio Diploma Estynedig BTEC Chwaraeon Lefel 3 (Academi Pêl-droed), yn gyntaf, a Ieuan Price, sy’n astudio Diploma Cenedlaethol BTEC Celf a Dylunio, yn drydydd. Daeth Shane Swanton sy’n astudio Diploma Estynedig BTEC Chwaraeon Lefel 3 (Academi Pêl-droed), yn seithfed. Roedd James Roberts sydd hefyd yn astudio Diploma Estynedig BTEC Chwaraeon Lefel 3 (Academi Pêl-droed) yn nawfed a Rob Matthews, sy’n astudio ar y cwrs Fusion, yn safle un ar ddeg.
Roedd dwy ferch cystadlu hefyd; Daeth Clara Bright yn drydydd ac roedd Tara Swanton yn rhedeg yn dda iawn ond cafodd broblemau gyda ‘i asthma, ac ni lwyddodd i orffen. Mae’r ddau yn astudio’r Diploma Estynedig BTEC Chwaraeon Lefel 3.





