Prifathro Coleg yn Rhybuddio am y Draen Ymenyddol wrth i Ddysgwyr Droi eu Cefnau ar Bowys

Principal Simon PirotteSymudodd Simon Pirotte Prifathro Coleg Powys, y drafodaeth ynghylch Moderneiddio Ysgolion ymlaen heddiw gyda’i gyfraniad cyhoeddus cyntaf di-flewyn ar dafod i’r ymgynghoriad. Ynghyd â swyddogion y Cyngor Sir, Mr Pirotte wedi mynychu nifer o gyfarfodydd cyhoeddus ar foderneiddio ysgolion. Mae’r digwyddiadau wedi denu llawer o sylw’r Cyfryngau a’r Cyhoedd mynegwyd llawer iawn o bryder ynghylch dyfodol Ysgolion Uwchradd Powys. Dywedodd Mr Pirotte; “Rwyf wedi cael argraff ffafriol iawn o’r ymrwymiad a’r cymorth a ddangoswyd gan y cymunedau lleol tuag at eu hysgolion, ond mae yna berygl – a’r perygl yw hyn: bydd ein pobl ifanc yn encilio o’r ysgolion a’r colegau lleol er mwyn medru dewis cwricwlwm ehangach a mwy amrywiol dros y ffin o Bowys. Mis Medi diwethaf roedd dros 250 o bobl ifanc 16 oed wedi dewis gadael y Sir i astudio, ac roedd cyfran sylweddol o’r rhain yn fyfyrwyr Safon Uwch disglair a thalentog. Os ychwanegwn y nifer fras a adawodd y flwyddyn cynt ac sydd bellach ar eu hail flwyddyn, mae hyn yn bum cant o fyfyrwyr. Mae pum cant o fyfyrwyr yn rif uchel i adael Sir megis Powys.”

Ychwanegodd Mr Pirotte ymhellach;

“Rhaid i ni gymryd y cyfle i foderneiddio er mwyn darparu’r ystod lawn o gyfleoedd ar gyfer y pum cant o ddysgwyr yma, sydd ar garreg ein drws, ym Mhowys. Ni ddylai pobl ifanc deimlo bod yn rhaid iddynt adael yr ardal er mwyn cael mynediad i ystod lawn a chyffrous o gyrsiau ac adnoddau. Os ydym yn gwneud dim, bydd ein rhifau’n edwino a bydd y dewis cwricwlaidd yn crebachu. Mae’n rhaid i ni fanteisio ar y cyfle hwn i ddod â’n cryfderau at ei gilydd, i rannu ein hadnoddau ac i weithio ar y cyd. Os gwneir hyn , byddwn yn medru adeiladu system addysg fydd ag adnoddau ardderchog ac yn gyfoethog o ran dewis ac amrywiaeth.”

Postiwyd hwn yn Uncategorized a thagiwyd , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.