Cynhaliodd Coleg Powys fersiwn eu hunain o ‘Mae gan Brydain Dalent’ ar gyfer holl staff a myfyrwyr y Coleg dydd Iau Mawrth 17eg yn Theatr Hafren Y Drenewydd.
Cafodd y cyhoedd i wahodd i ddod i weld y dalent wych ac amrywiol sydd yn y coleg. Aeth holl elw’r noson i Comic Relief.
Roedd pob un o adrannau’r coleg ynghyd ar eitemau oedd yn rhan o’r noson, a phawb a oedd wedi bod yn gysylltiedig â’r trefniadau wedi gweithio’n hynod o galed i sicrhau noson wych o adloniant i bawb.
Arweiniwyd y noson yn ddeheuig gan Susan Blower a Harry Marlowe. Beirniadwyd y cystadlaethau gan banel o feirniaid oedd yn cynnwys Simon Pirotte, Pennaeth Coleg Powys, Joy Jones, Maer Y Drenewydd, Carl Edwards o Newyddion HTV a Russ Evans Cyfarwyddwr Cwmni Theatrig Lleol. Bydd Russ yn ymddangos yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn ddiweddarach eleni.
Aeth y wobr gyntaf i Holli Osborne, myfyrwraig Gofal Dysg a Datblygiad Plant yn Aberhonddu am ei pherfformiad o gân. Enillwyd yr ail wobr gan Fad Lab, grŵp cymysg o ddawnswyr sydd yn fyfyrwyr yn yr adran Celfyddydau Perfformio yn Y Drenewydd. Dyfarnwyd y drydedd wobr i i Boylesque, grŵp dawns dynion sydd hefyd yn fyfyrwyr y Celfyddydau Perfformio yn Y Drenewydd.
Rhoddwyd canmoliaeth uchel i’r holl gystadleuwyr am berfformiadau gwych. Mae’r swm a godwyd ar y noson hyd yma dros £1000.





