Sioe Ffasiwn er budd Ambiwlans Awyr Cymru

Cynhaliwyd sioe ffasiwn Y Casgliad Eithaf yn Theatr Hafren dydd Gwener 11 Chwefror, 2011. Trefnwyd y sioe  gan fyfyrwyr Busnes BTEC o Goleg Powys Y Drenewydd fel rhan o’u cwrs.

Roedd y noson yn llwyddiant ysgubol gyda thua 200 o bobl yn mwynhau amrywiaeth eang o ffasiwn a ddarparwyd gan saith o fan werthwyr sydd i gyd wedi’u lleoli yn y Drenewydd; New Look, Clubsport, Ann’s, Tesco, Air Outdoors, Peacocks a Celtic Brides. Cyflenwyd blodau ar gyfer Celtic Brides gan Bloomers Florists o’r Drenewydd.

Roedd y dillad a ymddangosodd yn y sioe  ar gyfer pob cyllideb yn amrywio o blant, pobl yn eu harddegau, merched a dynion, gwisgoedd chwaraeon, gwisgoedd  awyr agored a gwisgoedd  priodas a gwisgoedd ar gyfer digwyddiadau gyda’r nos. Darparodd Celtic Brides Bloomers a Air Outdoors standiau ar y noson.

Nod y digwyddiad oedd codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru, ac i hyrwyddo ffasiwn sydd ar gael yn yr ardal, yn ogystal ag ymdrin ag amrywiol agweddau o’r cwrs busnes megis Rheoli Digwyddiad, Datblygu Tîm a Sgiliau Allweddol Gweithio gydag Eraill a Gwella Dysgu eich Hun.

Recriwtiwyd y Modelau o fewn y coleg – yn eu plith myfyrwyr o’r cyrsiau Celfyddydau Perfformio, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gofal Plant a Phaentio ac Addurno. Roedd aelodau o’r staff hefyd yn fodelau  ynghyd â’u plant a pherthnasau’r trefnwyr. Darparwyd modelau  hefyd gan Ann’s.

Darparodd myfyrwyr trin gwallt a harddwch a’r staff steiliau gwallt a cholur o safon anhygoel ar gyfer y modelau. Darparodd y Footloose Dance Troupe rhai dawnsfeydd ysblennydd yn ystod y sioe. Dywedodd Ann Lewis o Ambiwlans Awyr Cymru ychydig eiriau a hefyd Simon Pirotte Pennaeth y coleg. Cynhaliwyd raffl ar ddiwedd y sioe.

Dywedodd Liz Ashton Tiwtor y Cwrs: “Gweithiodd y myfyrwyr busnes yn hynod o galed am  fisoedd ymlaen llaw i baratoi ar gyfer y sioe, ac ar y noson roedd eu cyfraniad ar flaen a chefn y llwyfan yn rhagorol”.

Codwyd cyfanswm o £936.19.ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Postiwyd hwn yn Busnes a Gweinyddiaeth, Celfyddydau Perfformio, Elusen, Gofal Plant, Trin Gwallt a thagiwyd , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.