Dethol Alex ar gyfer Sgwad Pêl-droed D17

Alex GeorgeDewiswyd Alex George myfyrwraig Coleg Powys, ar safle’r Drenewydd, ar gyfer Sgwad Pêl-droed Menywod Cymru dan 17 oed. Mae’r garfan ar hyn o bryd yn cynnwys chwaraewyr o Arsenal, Chelsea a phrif glybiau eraill. Ar 6 Ebrill teithiodd Alex gyda’r garfan i Bencampwriaeth UEFA i Ferched dan 17, yr ail rownd gymhwyso. Mae hi i fod i ddychwelyd ar 15 Ebrill ac mae ei thiwtoriaid a’i chyd-fyfyrwyr yng Ngholeg Powys yn edrych ymlaen at glywed sut fydd hi wedi gyrru ymlaen.

Postiwyd hwn yn Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored, Pêl-droed a thagiwyd , , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.