Enillodd myfyrwyr Busnes o Goleg Powys Aberhonddu le yn ddiweddar yn rownd derfynol “Her Menter Fyd-eang” Colegau Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd.
Mae’r Her Fenter Fyd-eang yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir yng Nghaerdydd. Fe’i noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer myfyrwyr Coleg mentergar rhwng 16 a 19 oed. Wrth gystadlu mae’n ofynnol i fyfyrwyr i gyflwyno syniadau busnes a chynhyrchu cynllun busnes a fyddai’n llenwi angen cymdeithasol mewn marathon o 24 awr.
Mewn cystadleuaeth frwd yn agos death myfyrwyr Aberhonddu yn agos iawn i ennill lle yn rownd derfynol y Byd a gynhelir yn yr Almaen. Roedd y gystadleuaeth yn werth chweil ac fe enillodd y myfyrwyr brofiad busnes gwerthfawr.
Dywedodd y tiwtor Rob Flower, “Roedd yn brofiad dysgu gwych i’r myfyrwyr, ac maent yn glod mawr i Goleg Powys ac Aberhonddu yn gyffredinol.”
Dywedodd Tom Briggs, myfyriwr, “Mae cystadlu yn erbyn colegau eraill mewn cystadleuaeth menter yn brofiad boddhaus a chyffrous, ac rydym wedi dysgu llawer am waith tîm a pha mor gystadleuol yw’r byd go iawn.”






