Mae wedi bod yn gyfnod o brysurdeb ar fferm y coleg Fronlas ger Y Drenewydd, lle mae myfyrwyr amaethyddiaeth Coleg Powys wedi manteisio ar y tywydd sych i hau hadau glaswellt o dan gnwd haidd a fwriedir ar gyfer porthiant silwair y gaeaf nesaf.
Mae’r myfyrwyr wedi bod yn brysur yn lledaenu’r tail, aredig a hau hadau ar 10 erw o silwair cnwd cyflawn a dan heuwyd gyda glaswellt gwndwn pum mlynedd, rhan o raglen sy’n sicrhau bod glaswelltir y coleg yn cael ei ail-hadu yn rheolaidd.
Yn y llun mae Aled Jones o Lanfair-ym-Muallt yn hau hadau gwair i Will Jones o Lanfair Caereinion i’w lyfnu. Mae rholer fflat yn gorffen y gwaith i sicrhau wyneb gwastad ar gyfer y peiriannau torri gwair yn yr haf.
Dywedodd Pennaeth Amaethyddiaeth, Martin Watkin, “Mae’r tywydd sych wedi galluogi ein staff addysgu i fynd allan ar y tir gyda myfyrwyr tra bod y Rheolwr Fferm yn dal i fod yn brysur yn y sied wyna, felly mae wedi bod yn gwpl wythnosau da i ni fwrw’mlaen ar waith maes.”
Dyletswydd nesaf y myfyrwyr fydd rhoi gwrtaith ar y tir glas yn Fronlas ac yng Nghefn Bryn, fferm arall y coleg yn Sarn, ger y Drenewydd.






