Mae 25 o nyrsys milfeddygol o’r Iseldiroedd ar leoliad ar ffermydd lleol am 5 wythnos. Hwyluswyd y lleoliadau gan Bennaeth Amaethyddiaeth yng Ngholeg Powys, Martin Watkin. Cyrhaeddon Gymru 2 wythnos yn ôl a, gyda chymorth Coleg Powys, maent ar ffermydd defaid a chig eidion ar draws Sir Drefaldwyn a Sir Faesyfed. Mae’r llun isod yn dangos Dorothy yn bwydo oen o’r botel ar Fferm Plasuduon, Clatter ger y Drenewydd – cartref Anne a Phil Breeze.
Meddai Dorothy, “Mae hwn yn brofiad gwych, ac rwyf yn dysgu llawer iawn wrth weithio ar y fferm fynydd Cymreig gwych yma. Ers i mi gyrraedd wythnos yn ôl, rwyf wedi bod yn ymwneud â geni ŵyn i fwy na 300 o ddefaid. Yn yr Iseldiroedd dim ond model i o ddefaid sydd gennym i ymarfer arnynt ac mae’n wych i roi’r hyn oll ar waith ar ddefaid go iawn.”






