Pennaeth Coleg Powys yn rhan o Ddirprwyaeth i Tseinai

Mae cynrychiolwyr o’r sector addysg yng Nghymru wedi dychwelyd yn ddiweddar o Chongqing yn Tsieina fel rhan o ddirprwyaeth o Gymru a ariennir gan y Cyngor Prydeinig. Gofynnwyd i’r ddirprwyaeth i archwilio’r potensial o addysg, busnes a chyfleoedd hyfforddiant a gynigir gan yr economi sy’n ehangu gyflymaf yn y byd. Roedd Pennaeth Coleg Powys, Simon Pirotte, yn eu plith a dywedodd: “Yr agwedd fwyaf trawiadol o’r ymweliad oedd maint uchelgais pobl Chongqing. Roedd ein gwesteiwyr Tseiniaidd yn filch o ddatgan y bydd y byd yn cynhyrchu 300miliwn gliniaduron erbyn 2025. Bydd Chongqing yn cynhyrchu 100 miliwn o rhain.”

Ychwanegodd Mr Pirotte; “Mae gennym lawer i’w ddysgu oddi wrth ein cymheiriaid yn Chongqing. Mae ymroddiad eu dysgwyr yn hynod drawiadol ac mae ganddynt syched go iawn ar gyfer gwybodaeth a datblygu sgiliau. Roedd agwedd o “allu gwneud” ynghyd ag agwedd gadarnhaol iawn at ddatblygiad strategol ym mhob agwedd o ddarparu gwasanaeth yn sicr gan y swyddogion wnes i gyfarfod. Caiff unrhyw rwystrau i symud ymlaen eu datrys trwy weledigaeth bwerus a meddwl cysylltiedig. Mae cyfleoedd gwirioneddol i weithio gyda’n gilydd ac i adeiladu ar y cysylltiadau cryf a grëwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Cyngor Prydeinig.”

Mae cynrychiolwyr o’r sector addysg yn Chongqing eisoes wedi ymweld â Chymru ac maent yn hapus iawn gyda’r ffordd rydym yn ymdrin ag addysg alwedigaethol a chyffredinol.

Postiwyd hwn yn Uncategorized a thagiwyd , , , , , , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.