Siân yn Cipio Gwobr yng Nghystadleuaeth Athletau Gogledd Orllewin Colegau

Sian SwansonCynhaliwyd Cystadleuaeth Athletau Colegau Cymru a’r Gogledd Orllewin yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy ar 23 Mawrth. Yn cynrychioli Coleg Powys oedd y fyfyrwraig Siân Swanson (cyn disgybl yn Ysgol Uwchradd Y Drenewydd). Cafodd Siân ddiwrnod llwyddiannus iawn gan gofnodi ei Naid Uchel (1.65m) orau’r tymor a wnaeth yn ei thro ennill iddi’r gystadleuaeth. Enillodd hi hefyd y 3ydd safle yn rownd derfynol 60 metr y Merched gan glocio amser o 8.1 eiliad.

Mae Siân yn berson chwaraeon elît ac yn aelod o Sgwad Athletau Cymru. Mae hi’n mynychu Coleg Powys oherwydd yr hyblygrwydd sydd ar gael sy’n caniatáu iddi fynychu gwersylloedd hyfforddi tramor, ac ati, tra hefyd yn darparu’r cyfle iddi ennill Diploma Cenedlaethol mewn Chwaraeon. Bydd Siân yn gadael yr haf yma gyda 3 Gradd Rhagoriaeth ac mae wedi cael cynnig lle i astudio yn UWIC.

Postiwyd hwn yn Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored a thagiwyd , , , , , , , , , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.