Ymwelodd myfyrwyr Gwyddor Chwaraeon Coleg Powys, Aberhonddu yn ddiweddar â Phrifysgol Fflorida yn Gainesville lle cawsant y profiad o lu o gyfleusterau chwaraeon a gemau yr Unol Daleithiau.
Caniataodd y daith ddeg noson i’r grŵp i ymweld â chyfleusterau nodedig y Brifysgol, sy’n ymfalchïo mewn stadiwm pêl-droed Americanaidd sydd â seddau ar gyfer 90,000, stadiwm pêl-fasged, cyfleusterau trac a maes, stadiwm pêl fas a chyfleusterau ar gyfer pêl-droed, traws gwlad, golff, nofio , deifio, pêl feddal, gymnasteg, pêl foli a thenis. Ysbrydolwyd y myfyrwyr gan faint a graddfa’r cyfleusterau hyfforddi ac fe alluogodd hyn iddynt i wneud cymariaethau â chyfleusterau prifysgol a chenedlaethol yn y DU.
Datblygodd y myfyrwyr eu dealltwriaeth eu hunain o gyflyru a chryfder drwy ymweld â champfa nerth a chyflyru’r brifysgol. Mae gan y brifysgol saith hyfforddwr Cryfder a Chyflyru llawn-amser a ardystiwyd gan y Gymdeithas Cryfder a Chyflyru Cenedlaethol, ac mae ar flaen y gad yn yr ymchwil i gynllunio a gweithredu, drwy gydol y flwyddyn rhaglenni chwaraeon unigol, penodol. Roedd yr ymweliad yn galluogi’r myfyrwyr i weld yr ymrwymiad ac ymroddiad sydd angen i athletwyr y brifysgol ei wneud i lwyddo ar lefel rhyng-golegol, heb sôn am gyrraedd safon ryngwladol.
Gwelodd y myfyrwyr tîm y brifysgol, y ‘Gators’, yn chwarae gêm o bêl fas oedd yn eu galluogi i ddysgu hanfodion y gêm. Cawsont gyfle hefyd i wylio’r Atlanta Braves yn chwarae gêm o bêl fas yn erbyn METS Efrog Newydd yn y ESPN Wide World of Sports Complex nodedig a chyfle i gymryd rhan mewn pêl-droed a lacrosse. Yn ogystal cawsont y profiad o weld gêm pêl-fasged Orlando Magic yn y Ganolfan Amway newydd lle curodd y Magics y Denver Nuggets gyda 0.4 eiliad o amser yn weddill. Yn ogystal â gweld yr holl ddigwyddiadau chwaraeon bu’r myfyrwyr yn ymweld â Universal Studios, SeaWorld, Wet and Wild a Aquatica. Roedd y trip yn llwyddiant ysgubol ac fe’i mwynhawyd yn fawr gan yr holl fyfyrwyr.
Dywedodd Chay Billen, a drefnodd y digwyddiad ac sy’n Ddarlithydd Hamdden a Thwristiaeth yng Ngholeg Powys, “Roedd y daith yn caniatáu i’r myfyrwyr i gael cipolwg gwerthfawr ar sut mae’r gwahanol chwaraeon yn cael ei rhedeg yn yr Unol Daleithiau o’i gymharu â’r DU. Mae gan Brifysgol Florida dimau chwaraeon sy’n chwarae gemau coleg, yn debyg iawn i ni, ond does dim cymhariaeth yn lefel y proffesiynoldeb a’r ddarpariaeth. Wrth arsylwi ar y sesiynau Cryfder a Chyflyru, gyda rhai o’r myfyrwyr lwcus yn cymryd rhan, roedd athletwyr Cougar yn gallu gweld pa lefel o gyflyru, ymroddiad ac ymdrech sy’n ofynnol i lwyddo ar lefel elitaidd. Roedd ymddygiad y grŵp yn ardderchog drwy gydol y daith ac mi wasanaethodd y dysgwyr fel llysgenhadon gwych ar gyfer y Deyrnas Unedig a Choleg Powys.”







