Busnes fel arfer ar gyfer Myfyrwyr Busnes

Datgelodd Simon Pirotte Prifathro Coleg Powys, heddiw fwriad y coleg i ddatblygu mwy o Gyfleusterau Gwallt a Harddwch ar ei Gampysau yn Aberhonddu a’r Drenewydd. Bydd y datblygiad yn ategu’r cyfleusterau diweddaraf sydd eisoes yn bodoli ar y safleoedd. Dywedodd Mr Pirotte wrthym y “bydd y gwelliannau hyn yn arwain at gyfleusterau gwych a fydd yn agored i aelodau o’r gymuned leol. Byddant hefyd yn cynnig llawer o gyfleoedd busnes.”

Ychwanegodd Mr Pirotte, “Mae’r datblygiad hwn yn rhan o strategaeth stadau tymor hir y coleg i sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad at yr adnoddau gorau a hyfforddi mewn amgylchedd modern o safon ddiwydiannol. Byddwn yn parhau i gynnig cyfleoedd ar ein safle yn Llandrindod ac rydym yn awyddus i siarad â busnesau a sefydliadau eraill yn yr ardal a allai fod yn dymuno cael mynediad at gyfleusterau’r safle.”

Sicrhaodd Mr Pirotte y myfyrwyr a’r staff y byddai’n fusnes fel arfer ar y safle o safbwynt cyrsiau megis Busnes a Sgiliau Galwedigaethol. Dywedodd y Pennaeth Y Gyfadran sydd newydd ei phenodi, Siân Thomas, “Mae hwn yn ddatblygiad hynod gyffrous. Bydd yn ein galluogi i ymestyn ein cynnig cwricwlwm i gynnwys Trin Gwallt Dynion, Trin Gwallt Lefel 3 a Therapi Harddwch L3.”

Medr unrhyw un sy’n dymuno gwneud cais am y cyrsiau gael gwybodaeth ar wefan y coleg neu drwy ffonio 0845 4086 299.

Llandrindod Wells site

Newtown Beauty Therapy

Brecon Hairdressing

Newtown Hairdressing

Postiwyd hwn yn Busnes a Gweinyddiaeth, Therapi Harddwch, Trin Gwallt a thagiwyd , , , , , , , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.