Dwy Fedal Aur i Fyfyrwyr Coleg Powys

Bu cystadleuwyr o’r mwyafrif o Adrannau Arlwyo Colegau Addysg Bellach Cymru’n cystadlu’n ddiweddar yng Nghystadleuaeth Sgiliau’r Byd, a gynhaliwyd yn Llandrillo. Roedd 6 o gystadleuwyr o Adran Arlwyo Coleg Powys ar safle’r Drenewydd yn cynrychioli’r coleg a Phowys.

Roedd safon y cystadlu’n uchel trwy gydol y dydd, ond llwyddodd myfyrwyr Coleg Powys, Louise Dam a Rosie Pierce i ennill Medalau Aur yng nghategori’r Gwasanaeth Bwyty Uwch a chategori Gwasanaeth Bwyty Canolradd. Yn ogystal bu Louisa hefyd yn cystadlu yn y Gystadleuaeth Melysion lle enillodd fedal Efydd. Yn y gystadleuaeth Coginio a Gweini llwyddodd Myfyrwyr Coleg Powys – Ffion Lewis a David Johnson i ennill dwy fedal Arian.

Dywedodd Chris Yapp, Darlithydd Bwyd a Diod, “Rwy’n falch iawn o waith ein myfyrwyr ac mae ennill aur, arian ac efydd yng Nghystadleuaeth Derfynol Sgiliau’r Holl Fyd Cymru yn rhoi’r eisin ar y gacen. Roedd y safon yn uchel iawn ac ac nid yw byth yn hawdd i ennill oddi cartref. Rwy’n dymuno’r gorau iddynt ar gyfer y dyfodol. Mae gwasanaeth bwyd yn eithriadol o bwysig i’r diwydiant arlwyo yn ein hardal, ac rwy’n falch bod Adran Arlwyo a Lletygarwch Coleg Powys yn arwain y ffordd gyda rhagoriaeth ym Mhowys.”

Chris Yapp, Shaun Bailey and Mandy Carter with Ffion Lewis, Rosie Pierce, Louisa Dann and David Johnson

Postiwyd hwn yn Arlwyo a Lletygarwch, Gwobrau a thagiwyd , , , , , , , , , , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.