Mae cyn myfyrwyr celf Coleg Powys wedi cysylltu â’u tiwtoriad i’w diweddaru ar eu cyflawniadau gyrfaol.
Mae Mark Williams cyn-myfyriwr BTEC Diploma Cenedlaethol Celf a Dylunio, ar hyn o bryd ar ei flwyddyn olaf yn astudio Dylunio Ffasiwn ym Mhrifysgol Kingston, Llundain. Eleni mae Mark wedi cwblhau prosiect Cyngor Ffasiwn Prydeinig ar gyfer Burberry a oedd yn cynnwys dylunio casgliad o ddillad allanol ar gyfer y brand. Dywedodd Mark, “Mae’r Ddiploma Genedlaethol BTEC mewn Celf a Dylunio yn gyfwerth â 3 Lefel A, ac mi roedd yn bwysig iawn i mi oherwydd heddiw, mae angen cymwysterau i lwyddo, a gan nad oeddwn yn academaidd iawn, roeddwn o’r farn mai hyn oedd y ffordd orau o i gael y 3 Lefel A oedd ei angen i fynd ymlaen i addysg uwch. Cynigodd Coleg Powys Y Drenewydd y gofod a’r rhyddid o greadigrwydd. Wrth i mi ganolbwyntio ar ffasiwn roedd popeth oedd angen arnaf i mi gyflawni fy mhotensial ar gael.”
Mae’r cyn myfyriwr Diploma Cenedlaethol mewn Celf a Dylunio Jessica Bryant yn awr yn fyfyriwr Prifysgol yn astudio Gradd BA (Anrh) mewn Celf Gymhwysol. Wrth son am ei hamser yng Ngholeg Powys dywedodd Jessica, “Rwy’n credu bod y tiwtoriaid yn ysbrydoledig, yn gymwynasgar, yn ysgogi ac yn fodelau rôl go iawn i unrhyw un sydd o ddifrif ynglyn a gyrfa yn y Diwydiant Celf a Dylunio. Rhoddodd y cwrs yng Ngholeg Powys sylfaen dda i mi, pwyntiau UCAS i wneud cais i brifysgol, ynghyd â phrofiad gyda deunyddiau a bywluniad.”
Aeth Natalie Smith, myfyriwr blaenorol arall mewn Celf a Dylunio, ymlaen i astudio dylunio graffig Sefydliad Celf a Dylunio ym Mirmingham, ac mi enillodd BA (Anrh) mewn Cyfathrebu Gweledol. Ers gadael y brifysgol, mae Natalie wedi bod yn gweithio gyda chwmnïau dylunio lleol, yn ogystal â gweithio fel dylunydd llawrydd gyda’i chwmni ei hun Dylunio Natalie Rose. Yn gynharach eleni, dechreuodd adfywio’r deunydd marchnata ar gyfer Coleg Powys, o daflenni i dyddiaduron myfyrwyr, prosbectysau i dempledi e-bost. Meddai Natalie “Mae wedi bod yn gyfle gwych i ddweud diolch wrth y coleg am fy nghynorthwyo yn fy ngyrfa a hefyd mae gweithio gyda’r staff wedi bod yn brofiad cwbwl bleserus. Rwy’n teimlo mai fy amser yng Ngholeg Powys oedd y ffordd berffaith i’m cyflwyno i astudio ac i weithio yn y maes celf a dylunio. Roedd yn blatfform gwych i symud ymlaen i astudio ar lefel uwch ar cam cyntaf ar yr ysgol i ddatblygu gyrfa o weithio yn y diwydiant dylunio.”
Dywedodd Pennaeth y Gyfadran, Steve Cass, “Rydym yn falch iawn bod ein cyn fyfyrwyr wedi cysylltu â ni. Mae’n wych clywed am eu holl gyflawniadau nodedig. Er bod y coleg yn edrych yn ôl ac yn cadw mewn cysylltiad â chyn fyfyrwyr, rydym hefyd yn edrych ymlaen. Ym mis Medi, byddwn yn cyflwyno BTEC mewn Celfyddydau Perfformio wedi’i leoli yn Theatr Brycheiniog, BTEC mewn Ffasiwn a Dillad, a Ffotograffiaeth Safon Uwch. Byddwn yn parhau i redeg ein Cwrs Celf Sylfaen llwyddiannus a chyffrous, sydd wedi bod yn hynod werthfawr i unrhyw un sy’n awyddus i gael gyrfa yn y Celfyddydau.”
Os hoffech wybod mwy am gyrsiau Coleg Powys, cysylltwch â Gwasanaethau Myfyrwyr ar 0845 4086 200.