Gweithgaredd Paranormal yng Ngholeg Powys

Trefnodd Pwyllgor Cymdeithasol Coleg Powys, gyda chymorth Grŵp Ymchwil Para normal De Powys (SWPR), Ddigwyddiad Para normal yn ddiweddar ar gyfer elusen ar safle Llandrindod.

Yn y ffreutur, y ganolfan ar gyfer y noson, roedd llawer o offer diddorol wedi’i osod allan a rhoddodd Steve a gweddill SWPR sgwrs galonogol am yr hyn fyddai’n digwydd yn ystod y noson. Roedd pawb yn y grŵp ychydig yn bryderus am yr hyn a allai ddigwydd, ond hefyd ychydig yn gyffrous ar yr un pryd.

Rhoddwyd y deuddeg aelod dewr o staff Coleg Powys mewn 3 grŵp o 4 ar gyfer y nos, gyda dau ymchwilydd o SWPR ym mhob grŵp.

Trwy gydol y nos cynhaliwyd gweithgareddau fel; Ffenomena Llais Electronig (EVP), Canfyddiad Ychwanegol ar y Synhwyrau (CSA), Dewinio, a Seicometreg. Yn hwyr yn y nos cafodd y grŵp hyd yn oed ei hanfon i ffwrdd i’r islawr i fod ‘AR EI BEN EI HUN YN Y TYWYLLWCH.’

Y 5ed gweithgaredd, a’r terfynol, (o gofio ei bod bellach yn 1.00yb) oedd sianelu gwydr. Dywedodd Tracey, aelod dewr o’r staff, “Cawsom eistedd o amgylch bwrdd sianelu gwydr a galw am bresenoldeb i ymuno â ni. Gadewch i ni ddweud fod presenoldeb wedi ymuno ac i’r gwydr symud. Roedd yn deimlad rhyfedd iawn, ac mi chwythodd y gweithgaredd cyfan mi i ffwrdd!”

Roedd y Digwyddiad Para normal yn llwyddiant mawr ac yn brofiad gwych i bawb a gymrodd ran. Ar ran pawb a fynychodd y noson, carwn ddiolch yn fawr iawn i SWPR am wneud yr holl noson yn noson gyffrous iawn.

Llwyddwyd trwy’r digwyddiad i godi cyfanswm o £232 ar gyfer Tîm Achub Mynydd Brycheiniog a Macmillan.

Paranormal Event in Llandrindod Wells

Postiwyd hwn yn Elusen a thagiwyd , , , , , , , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.