Mae Steve Cass wedi ymuno a Choleg Powys fel Pennaeth Cyfadran ar gyfer Technoleg, Busnes a’r Celfyddydau. Tra yng Ngholeg Llwydlo, arweiniodd Steve Cass yr adran Gelfyddydau Creadigol yn gyson i radd safon un. Disgrifiodd safonwyr fyddai’n ymweld a choleg Llwydlo, ei adran Celf a Dylunio fel “un o’r canolfannau gorau yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr.” Mae Steve yn dod â blynyddoedd o brofiad o ragoriaeth academaidd Lefel A i’r coleg. Mae eisoes wedi cychwyn trwy gyflwyno Ffotograffiaeth Safon Uwch. Cefndir academaidd Steve yw Celf a Dylunio, ond mae’n mwynhau’r amrywiaeth o brofiad galwedigaethol ac academaidd mae Coleg Powys yn ei gynnig iddo yn ei rôl newydd. Meddai Steve, “Gall unrhyw ddiwrnod fynd â chi o Beirianneg i Adeiladwaith ac yna i Gelfyddydau Perfformio. Mae’n gwneud i chi sylweddoli’r cyfoeth o gyrsiau sydd ar gael i ddysgwyr yma yn y Coleg.”
Mae Siân Thomas hefyd wedi ymuno â Choleg Powys fel Pennaeth Cyfadran ar gyfer Gwasanaethau i Bobl a’r Gymuned yn dilyn 18 mlynedd yng Ngholeg Sir Gâr, lle, o dan ei harweiniad, daeth y ddarpariaeth Trin Gwallt a Therapi Harddwch yn Ganolfan Rhagoriaeth ac yn gyson yn derbyn gradd un gan arolygwyr ESTYN. Cyflwynodd Sian Fagloriaeth Cymru a’r Prif Gymwysterau Dysgu gyda chanlyniadau rhagorol. Daw Siân â phrofiad helaeth o reoli ansawdd i’r coleg ar ôl gweithio am 16 mlynedd fel aseswr cysylltiol gyda ESTYN yn arolygu Colegau Cymru. Yn Gymraes ei hiaith, mae Siân yn edrych ymlaen at chwarae rhan allweddol yn natblygiad y ddarpariaeth Iaith Gymraeg yng Ngholeg Powys. Yn 2000, enillodd Siân MSc o Brifysgol Morgannwg ac mae ganddi brofiad o weithio ar draws sbectrwm o feysydd academaidd. Mae Siân yn mwynhau’n fawr iawn amrywiaeth ei rôl newydd, ac mae’n gyffrous ynglŷn â’r ddarpariaeth newydd – y Celfyddydau Perfformio, Gwasanaethau Cyhoeddus a Seicoleg Lefel A fydd yn dechrau yn y gyfadran ym mis Medi 2011 “bydd y rhain yn ymestyn yr ystod o bynciau galwedigaethol ac academaidd ar gyfer dysgwyr.”







