Ymhlith y miloedd o bobl a deithiodd i Lundain eleni ar gyfer Virgin Marathon Llundain, roedd grŵp o fyfyrwyr a staff o Goleg Powys. Gadawodd y grŵp ei marc ar y digwyddiad.
Treuliodd y myfyrwyr sydd ar y Cyrsiau Harddwch y diwrnod yn tylino’r rhedwyr oedd wedi cymryd rhan yn y marathon (am ddim) er budd elusennau Ymchwil Asgwrn Cefn a Phrofedigaeth Plant.
Roedd y daith yn llwyddiant ysgubol a dywedodd arweinydd y grŵp, Nicola Tatton, “Roeddwn yn falch iawn o’r myfyrwyr ynghyd a’u hymddygiad proffesiynol ar hyd yr amser. Rwy’n gwybod bod llawer o waith wedi’i wneud i baratoi’r myfyrwyr ar gyfer y tylino ac rwy’n awyddus i ddiolch i’r staff a wnaeth hyn yn bosibl. ”
Mae’r ddwy elusen a gefnogir gan fyfyrwyr Coleg Powys hefyd yn llawn edmygedd o lwyddiant y digwyddiad. Dywedodd Emma Riley, swyddog codi arian ar gyfer yr Elusen Profedigaeth Plant, “Roedd y rhedwyr yn gwerthfawrogi’r tylino ac mi dderbyniwyd nifer o sylwadau hyfryd ynglŷn â pha mor dda oeddent!”
Mae’r ddwy elusen wedi mynegi eu dymuniad i gael Coleg Powys i’w cefnogi nhw eto’r flwyddyn nesaf, ac mae hyn yn gyfle gwych i fwy o fyfyrwyr yn y dyfodol.







