Pennaeth yn Addo Cymorth i’r Celfyddydau

Er gwaethaf cefndir o doriadau addawodd Prifathro Coleg Powys, Simon Pirotte, heddiw ei gefnogaeth ac ymrwymiad i’r celfyddydau ym Mhowys. Mae’r toriadau diweddar y llywodraeth wedi golygu bod sefydliadau celfyddydol ledled y DU wedi dioddef. Dywedodd Mr Pirotte, “Mae’r posibilrwydd o golli’r cyfleusterau yma ym Mhowys yn drist iawn. Rhaid inni ddyblu’n hymdrechion ac ymrwymiad i’r celfyddydau. Er gwaethaf y dirwasgiad, mae diwydiant y celfyddydau creadigol a’r cyfryngau yn ffynnu.

“Mae Coleg Powys yn ymrwymedig i chwarae ei rhan i gefnogi’r celfyddydau. Ym mis Medi, byddwn yn lansio cwrs Celf Perfformio amser llawn yn Ne Powys. Lleoli’r y cwrs yn Theatr Brycheiniog. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau mewn actio, canu, dawns a theatr dechnegol. Trwy leoli’r cwrs yn y theatr ei hun, gall myfyrwyr gael profiad gwych o theatr real a pherfformio.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Artistig y theatr, Andy Eagle, “Rydym wrth ein bodd i fod yn cydweithio gyda’r coleg yn y modd hwn. Mae hyn wedi bod yn hwyr yn dod. Rydym am i bobl ifanc ym Mhowys gael mynediad at y cyfleusterau gwych sydd gennym yma yn y theatr. Bydd hyn yn ategu’r gwaith mawr rydym eisoes yn ei wneud gyda phobl ifanc.”

Dywedodd Mr Pirotte, “Nid dyma’r unig ddatblygiad. Mewn cydweithrediad ag Ysgol Uwchradd Y Drenewydd ‘rydym hefyd yn lansio cwrs amser llawn mewn Ffasiwn a Dillad. Byddwn yn rhannu’r cyfleusterau gwych yr Ysgol Uwchradd, a’n campws yn y Drenewydd.”

Ychwanegodd Sandy Craig, Darlithydd Celf a Dylunio yng Ngholeg Powys, “Rydym yn credu y bydd y cwrs yn l cyfarparu myfyrwyr Powys gyda’r sgiliau creadigol a thechnegol sydd eu hangen i naill ai i fynd ymlaen i ddilyn cwrs Gradd Ffasiwn neu i gyflogaeth yn y diwydiant ffasiwn. Rydym hefyd yn bwriadu cyflwyno Diploma Gyfrannol mewn ffotograffiaeth a fydd yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr o Goleg Powys ac Ysgol Uwchradd y Drenewydd i archwilio’r ochr dechnegol ac esthetig y pwnc diddorol hwn. Os yw myfyrwyr yn dymuno, byddant wedyn yn gallu symud ymlaen i ddilyn ein Cwrs Sylfaen Celf a Dylunio. Mae Coleg Powys yn sicr yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gynnig cwricwlwm celfyddydau eang i bobl ifanc Powys.”

Mae manylion ar gael ar wefan y coleg neu ffoniwch 0845 4086 299.

Theatr Brycheiniog, Brecon

Postiwyd hwn yn Celf a Dylunio, Celfyddydau Perfformio a thagiwyd , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.