Datblygu Sgiliau Carbon Isel yng Nghymru

European Social FundColeg PowysSgiliauAdeiladu yng Nghymru

‘Cynaliadwyedd yn y Diwydiant Adeiladu’
Cyfleoedd Hyfforddi i Newydd Ddyfodiaid

Fel rhan o’n Project Darparu Sgiliau Carbon Isel, mae SgiliauAdeiladu yng Nghymru’n falch i’ch hysbysu fod cyllid wedi’i ddyrannu i Goleg Powys i sicrhau y gall prentisiaid a leolir yng Nghanolbarth Cymru fuddio o gwrs ychwanegol a fydd yn galluogi cyfranogwyr i ddeall y cysyniad o Gynaliadwyedd a’i berthnasedd i Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig yn well. Bydd y cwrs yn dechrau ym Medi/Hydref 2011.

Pwy sy’n Gymwys ar gyfer yr Hyfforddiant hwn?

Dylunnir y cwrs ar gyfer prentisiaid cyflogedig sy’n byw yng Nghymru ac sydd wedi cofrestru i wneud Prentisiaeth Fodern Sylfaenol neu Brentisiaeth Fodern mewn Bricwaith, Gwaith Asiedydd neu Blastro. Nid oes unrhyw gyfyngiadau oedran mewn perthynas â’r cwrs ac mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael.

Hyd y Cyrsiau a Deilliannau

Mae’r cwrs, sy’n seiliedig yn y coleg, yn para am 30 awr gyda deilliant o 1 uned o NVQ 2 mewn Cynaliadwyedd yn y Diwydiant Adeiladu:

Bydd yr hyfforddiant yn eich helpu i:-

  • Ddeall y cysyniad o gynaliadwyedd a’i berthnasedd i’r sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
  • Gwybod am y materion sy’n effeithio ar ddatblygiad amgylchedd adeiledig cynaliadwy.
  • Gwybod sut y gall cynaliadwyedd fuddio’r amgylchedd adeiledig yn lleol ac yn genedlaethol
  • Gwybod sut y defnyddir technegau dylunio ac adeiladu cynaliadwy i fynd i’r afael â materion amgylcheddol

Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant bydd gennych ddealltwriaeth well am:-

  • Beth a olygir gan ‘gynaliadwyedd’
  • Gwerthuso perthnasedd cynaliadwyedd i’r sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig
  • Adnabod a disgrifio’r materion sy’n gysylltiedig â darparu amgylchedd adeiledig cynaliadwy
  • Adnabod a disgrifio’r buddion o ddefnyddio adeiladu cynaliadwy, yn nhermau lleol a chenedlaethol
  • Adnabod a disgrifio’r technegau dylunio ac adeiladu cynaliadwy a ddefnyddir i leihau’r effaith ar yr amgylchedd a sut y mae gweithgareddau adeiladu’n effeithio ar yr Amgylchedd Naturiol.

Costau a Grantiau

  • Ar gyfer BBaChau: bydd eisiau cyfraniad gan y cyflogwr o 30% o gost lawn y cwrs sy’n dod i gyfanswm o £67.50 yr ymgeisydd
  • Ar gyfer cyflogwyr sydd wedi cofrestru â CITB-SgiliauAdeiladu: gall hawlio’r cyfraniad cyflogwr (sef 30%) yn ôl yn ogystal â grant pellach gwerth £17.50 ar gyfer pob diwrnod o bresenoldeb.

Sut i Gadw’ch Lle

Os oes gennych ddiddordeb mewn cadw lle ar y cwrs, cysylltwch â: Theresa Mullinder, Coleg Powys on 0845 4086253 neu ebostiwch theresa.mullinder@coleg-powys.ac.uk

Postiwyd hwn yn Crefftau Adeiladu a thagiwyd , , , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.