Mae Coleg Powys, mewn cydweithrediad â Sgiliau Adeiladu a Chalch Ty-Mawr, yn cynnig cyfres o becynnau hyfforddi crefftau adeiladu traddodiadol cyffrous. Mae’r rhaglen beilot arloesol wedi ei chynllunio i fodloni gofynion sgiliau crefftwyr sy’n gweithio, neu anelu i weithio, yn y diwydiannau adeiladu yn y maes treftadaeth. Bydd y cyrsiau hefyd fod o werth i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes hyfforddiant.
Fel rhan o’r rhaglen, bydd y cyfranogwyr yn derbyn lefel uchel o hyfforddiant “ymarferol” mewn sgiliau treftadaeth, gan gynnwys gwaith plastr, gwaith brics, gwaith coed a phaentio ac addurno. Bydd gweithgareddau hyfforddiant yn digwydd yng nghyd-destun realistig treftadaeth a sgiliau ymarferol a gyflwynir mewn dosbarthiadau na fydd yn fwy na chwech mewn maint.
Bydd y gweithgareddau hyfforddi yn rhoi cyflwyniad i’r Sgiliau Treftadaeth CGC, Lefel 3 Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol. Bydd cwblhau’r cymhwyster hwn yn llawn yn caniatáu i’r deiliad wneud cais am Gerdyn Ardystio Sgiliau Adeiladu Cynllun Treftadaeth . Er mwyn medru gweithio ar safleoedd treftadaeth megis y rhai o dan warcheidwaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae angen cynyddol i fod yn ddeiliad y cerdyn yma.










