Cynhaliodd Myfyrwyr y cwrs Gofal Plant yn y Drenewydd fore coffi i godi arian ar gyfer Plant mewn Angen.
Yn ogystal â gwerthu te, coffi ac ystod eang o gacennau cartref, cynhaliwyd cystadleuaeth “dyfalu enw’r tedi” a threfnwyd raffl.
Mewn un diwrnod llwyddodd y myfyrwyr i godi’r swm anhygoel o £330.93 gyda mwy o arian yn parhau i ddod i mewn drwy werthu taflenni cwis swyddogol.
Diolch i bawb a gefnogodd yr ymdrech ardderchog yma i godi arian.










