Coroni Coleg Powys Aberhonddu yn Bencampwyr

Teithiodd merched Cougar Coleg Powys Aberhonddu i Abertawe’r wythnos ddiwethaf ar gyfer y twrnamaint pêl-droed pump-bob-ochr blynyddol Colegau Cymraeg.

Roedd y garfan yn cynnwys Amy Thrupp (Dan 19 Cymru Ryngwladol), Steph Hughson, Angharad Meredith, Bethan Lewis, Bronnie Jones, Kirsty Powell a’r seren o eilydd Ffion Mills.

Yn y gêm gyntaf gwelwyd y Cougars yn curo Coleg Powys Y Drenewydd 10-8, yna buddugoliaeth 10-6 dros Gastell-nedd Port Talbot. Oherwydd colli 5-6 yn erbyn Coleg Sir Gâr roeddent yn ail yn ei yn ail yn eu pŵl ac yn gorfod wynebu Academi Dinas Caerdydd a oedd wedi ennill eu pŵl yn y rowndiau gogynderfynol. Cafwyd buddugoliaeth wych lle daeth sgiliau sidanaidd Amy i’r amlwg a rhoddodd hyn gyfle iddynt wynebu Coleg Menai yn y rownd gynderfynol, ac ennill 9-6.

Yn eironig roedd y rownd derfynol yn erbyn Coleg Sir Gâr – y tîm a’i gorchfygodd yn gynharach yn y twrnamaint. Nid oedd y Cougars yn debygol o golli’r gêm yma ac mi chwaraewyd yn wych i sicrhau buddugoliaeth o 8-2. Roedd hon yn fuddugoliaeth enfawr ac fel pencampwyr gallant i gyd fod yn hynod falch o’u hymdrech a’r pêl-droed gwych maent yn ei chwarae.

Yn dilyn y fuddugoliaeth yma, ddiwrnod yn ddiweddarach roedd y  merched yn cymryd rhan yn  Nhwrnamaint Hoci Colegau Cymru yng Nghaerdydd. Roedd yn siom bod rhai o’r marched wedi tynnu’n ôl ond er gwaethaf popeth, canolbwyntiodd y naw wnaeth chwarae ar y dasg ac mi chwaraewyd hoci gwych.  Wynebwyd y ffefrynnau, Coleg Gŵyr, yn y gêm gyntaf a cholli bu’r hanes o 5-0. Fodd bynnag, aethpwyd  ymlaen i guro Coleg Cross Keys 1-0 a bu gêm gyfartal (0 -0) yn erbyn Coleg Iâl. O ganlyniad, fe aeth yn ffliciau cosb ac mi lwyddodd Bronnie Jones, Bethan Lewis ac Amy Thrupp i selio eu rhai nhw. Gwnaeth Ffion Mills arbedion gwych ac fe enillodd hyn y gêm i’r Cougars. O ganlyniad, death y tîm yn drydydd yn gyffredinol, a medrwn ond dyfalu beth allai fod wedi digwydd gyda sgwad lawn a chryf.

Mae wedi bod yn wythnos chwaraeon ardderchog i ferched Cougar ac mi fedrant ymfalchïo yn eu llwyddiant, eu hymdrechion a’u dycnwch. Da iawn!

Coleg Powys Cougars five-a-side winners

Postiwyd hwn yn Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored, Hoci, Pêl-droed a thagiwyd , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.