Yn dilyn llwyddiant digwyddiad tebyg yn gynharach yn y flwyddyn, mentrodd grŵp o staff Coleg Powys i neuaddau ac ystafelloedd dosbarth tywyll adeilad y coleg yn Llandrindod mewn ymgais i godi arian ar gyfer elusennau lleol.
Yn ystod y noson, roedd staff yng nghwmni ymchwilwyr hyfforddedig o Ymchwil Paranormal De Cymru (SWPR). Gyda 3 llyfr wedi’i gyhoeddi, a dros £ 30,000 wedi’i godi eisoes ar gyfer elusennau, crëwyd digwyddiad y coleg gan SWPR, grŵp para normal seiliedig ar wyddoniaeth, i roi gwerthfawrogiad cyffredinol o’r amrywiaeth o ddulliau o gyfathrebu ag ysbryd a dulliau o ymchwilio i’r aelodau. Roedd hyn yn cynnwys gweithgareddau o natur fwy ysbrydol, wedi’i gymysgu gydag arbrofion gwyddonol a gweithdrefnau.
Codwyd £206 ar gyfer Hosbis Hafren yn yr Amwythig a Thŷ Wysg yn Aberhonddu.






