Mae’r llyfryn Addysg Oedolion a Chymunedol ar gyfer tymor y gwanwyn 2012 nawr ar gael.
Mae’n rhoi manylion am y cyrsiau rhan-amser sy’n cael eu rhedeg mewn lleoliadau cymunedol lleol ar draws Powys gyfan rhwng Ionawr a Mawrth. Cynhwysir cyrsiau sy’n cael eu rhedeg gan Goleg Powys, Cyngor Sir Powys, Cymraeg i Oedolion, PAVO, Prifysgol Aberystwyth, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr De, Coleg Harlech / Cymdeithas Addysg y Gweithwyr Gogledd a’r YMCA.
Mae amrywiaeth eang o gyrsiau sydd ar gael, gan gynnwys Cychwyn Busnes Ar-lein, Ysgrifennu Nofel, Hyfforddiant MiDAS, Sgwrsio Ffrangeg, Deall Amffibiaid, Cymraeg ar bob lefel, Sgiliau Weldio, Coginio Tymhorol a llawer mwy.
I gael eich copi o’r prosbectws mae’n bosibl i chi ei lwytho i lawr yma, ffoniwch 0845 4086 299 neu e-bostiwch enquiries@coleg-powys.ac.uk.
Mae ar gael ar-lein yn gyntaf. Bydd copïau caled ar gael o ddydd Mercher Rhagfyr 7fed.





