Bu plant o oed cyn-ysgol yn mwynhau cyfres o ddigwyddiadau hwyliog, diolch i bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Powys a Choleg Powys.
Unodd y ddau sefydliad i gynnig adrodd straeon a gweithgareddau dysgu llawn hwyl awyr agored ar gyfer plant y cyfnod meithrin a sylfaen.
Arweiniodd y storïwr Proffesiynol, Michael Harvey, y sesiynau gyda chwedlau traddodiadol. Cafodd ei gynorthwyo gan fyfyrwyr gofal plant Coleg Powys, a oedd hefyd yn helpu’r plant i gymryd rhan yn y gweithgareddau cysylltiedig â mwynhau cyfleusterau’r llyfrgell.
Dywedodd y Cynghorydd Wynne Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Llyfrgelloedd,: “Mae’r digwyddiadau yn anelu at gyflwyno plant i’r llyfrgell ac annog cariad at lyfrau a darllen. Roedd gweithio gyda Choleg Powys yn golygu ein bod ym medru cael cyllid grant i drefnu’r digwyddiadau hyn fel bod plant lleol yn elwa. ”
Ymunodd Gofal Plant Coleg Powys ac ysgol Fabanod Mount Street, Aberhonddu ac Ysgol Maesyrhandir yn y Drenewydd i gymryd rhan mewn sesiwn adrodd straeon fel rhan o gydweithredu ar y cyd rhwng y Gwasanaeth Llyfrgell Cyhoeddus a Choleg Powys. Dywedodd un o Lywodraethwyr y Coleg, “Y dyddiau hyn, rydym yn clywed cyn lleied am yr holl waith ardderchog sy’n digwydd ym maes Addysg ac mae hwn ond yn un enghraifft o’r fath.” Mwynhaodd y myfyrwyr a’r disgyblion ysgol y digwyddiad yn fawr iawn ac ar ôl adrodd straeon yn y Drenewydd tywyswyd y disgyblion gan y myfyrwyr gofal plant i’r ardal awyr agored y llyfrgell i blannu hadau, dyfrhau’r hadau ac i ddod o hyd i’r Iâr Fach Goch.
Cynhaliwyd y digwyddiadau dros ddau ddiwrnod (Hydref 6-7) yn llyfrgelloedd Cyngor Sir Powys yn Aberhonddu, Llandrindod a’r Drenewydd; yn ogystal ag a’r safleoedd Coleg Powys yn Aberhonddu a’r Drenewydd.
Cafodd y prosiect ei ariannu gan raglen llyfrgelloedd strategol 2011-2012, Llywodraeth Cymru drwy CyMAL (Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru), ac mae’n rhan o’r Bartneriaeth Sioe Deithiol Llyfrgell a Darllen De Orllewin a Chanolbarth Cymru.








