Entrepreneuriaid Ifanc yn Disgleirio yn Y Drenewydd

Gwahoddwyd  myfyrwyr ar safle’r Drenewydd i gymryd rhan yn yr Her Fenter “Bright Sparks” yn ystod yr Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang.

Global Entrepreneurship Week 2011

Cymerodd 21 o dimau a 123 o fyfyrwyr ran yn nigwyddiad menter Y Drenewydd.

Yr her ar gyfer pob tîm o uchafswm  8 aelod  oedd creu syniad busnes a fyddai’n helpu i gynhyrchu cyllid ar gyfer gweithgareddau ac adnoddau ychwanegol ar gyfer eu cwrs.

Roedd diwrnod cyntaf y digwyddiad yn cynnwys trafod syniadau busnes, ymchwil, cynllunio a pharatoi cyflwyniad.

Menter a BusnesCefnogwyd y timau o fyfyrwyr gan Fodelau Rôl Dynamo a ariennir gan Fenter a Busnes. Y 4 mentoriaid busnes oedd Sara Reast o Machinations, Deri Jones o Dderi Jones a’i Gymdeithion, Peter Styles o Bensaernïaeth Tirwedd Lingard Styles ac Andrew Capel o Dragonfly Solutions Ltd.

Yn ystod yr ail ddiwrnod cyflwynodd y timau  eu syniadau busnes i banel o feirniaid. Roedd cyfyngiad o 5 munud  ar y cyflwyniadau  gyda rhywfaint o amser ar gyfer cwestiynau ac atebion.

Roedd un panel o feirniaid yn cynnwys Pennaeth y Coleg, Simon Pirotte, Llywodraethwr  y  Coleg Jill Kibble, Model Rôl Dynamo Sara Reast a thiwtor Mynediad Galwedigaethol a threfnydd y digwyddiad menter Sarah Welch.

Judging panel 1, L-R: Sarah Welch, Sara Reast, Simon Pirotte and Jill Kibble

Roedd y panel beirniaid arall yn cynnwys Pennaeth y Gyfadran Steve Cass, Llywodraethwr y Coleg Gwyneth Sneade, cyn-diwtor Busnes Barbara Read a thiwtor Busnes a threfnydd y digwyddiad menter Liz Ashton.

Judging panel 2, L-R: Gwyneth Sneade, Steve Cass, Barbara Read and Liz Ashton

Aeth y tîm a ystyriwyd y cryfaf gan bob panel drwodd i rownd derfynol lle bu’n ofynnol i’r ddau dîm  gyflwyno eu syniad busnes ar lwyfan Hafren i bob un o’r beirniaid a’r myfyrwyr eraill a gymerodd  ran.

Ar gyfer y sesiwn olaf roedd y myfyrwyr yn cerdded i mewn i Hafren i’r gerddoriaeth o’r “The Apprentice”. Y ddau dîm i gyflwyno yn y rownd derfynol oedd “Team Vision”  a gyflwynodd eu syniad o gwmni digwyddiadau a fyddai’n dechrau trwy drefnu dawns ymadael ar gyfer y  myfyrwyr sydd ar eu blwyddyn olaf, a “Wiggle Wiggle Wiggle”, a gyflwynodd eu syniad o werthu smwddis ffrwythau iach ac iogwrt wedi’i rewi.

Roedd y beirniaid eu plesio’n fawr gan y ddau dîm ond “Team Vision” a ddewiswyd fel enillwyr. Aelodau’r tîm oedd Nerys Evans, Rachel Knowler-Davies, Clare James, Kyle Davies, Pryderi Collins, Hayden Caldwell a Tom Andrew. Cyflwynwyd iPod i bob enillydd ac yn ogystal mi enillwyd diwrnod allan ar gyfer eu grŵp tiwtor.

The winning team, Team Vision

Dywedodd trefnwyr y digwyddiad, Liz Ashton a Sarah Welch, “Roedd Yr Her Fenter ‘Bright Sparks’ yn llwyddiannus dros ben ac yn cynnwys myfyrwyr o bob rhan o’r campws. Cwblhawyd yr her gan 21 o dimau sydd wedi mwynhau’r profiad. Derbyniwyd sylwadau cadarnhaol oddi wrth staff a myfyrwyr, gan gynnwys y modelau rôl a’r beirniaid. Roedd maint y digwyddiad hwn yn fwy o lawer nag unrhyw ddigwyddiad a drefnwyd yn y gorffennol ac mae wedi cynnig cyfleoedd newydd i bob myfyriwr i ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd gyda chymorth ac arbenigedd y modelau rôl Dynamo.”

Dywedodd Pennaeth y Gyfadran Steve Cass, a fu’n cynorthwyo gyda beirniadu’r digwyddiad, “Roedd hwn yn ymdrech anhygoel gan y myfyrwyr a ddaeth o hyd i gynlluniau gwych i wneud arian. Rwy’n hyderus ein bod yn edrych ar rai o entrepreneuriaid mwyaf disglair y dyfodol yma yng Ngholeg Powys.”

Dywedodd y Prif Simon Pirotte, “Yn dilyn llwyddiant y fenter her yn Aberhonddu, roedd hwn yn ddigwyddiad arall rhagorol. Roedd y panel o feirniaid yn dyst i rai cyflwyniadau gwych a llawer o syniadau arloesol. Roedd y cyfranogwyr yn dysgu llawer iawn drwy’r broses ac wedi ennill profiad gwerthfawr o ran yr hyn sydd ei angen i fod yn entrepreneur llwyddiannus.”

Y rhestr lawn o dimau:

Team Vision, Wiggle Wiggle Wiggle, IT Kings, Strikers, Sub Dips, Maria’s Angels, Sparks R Us, Set Them Straight, The Professionals, The Wizz Kidz, The Dynamos, The Amigos, Steps Reunited, The Pink Foxes, Inspired, Sarah’s Angels, Gizmix, Magical Meerkats, The Odd Ones Out, Bi-winning and Tree Huggerz.

Cynhaliwyd Her Menter “Bright Sparks” hefyd ar safle Aberhonddu ar gyfer myfyrwyr sy’n mynychu safleoedd Aberhonddu a Llandrindod.

Postiwyd hwn yn Menter a Chyflogadwyedd a thagiwyd , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.