Profiad Gwaith Ymweliad â Sofia, Bwlgaria

Ar 15 Hydref 2011, gadawodd 33 o fyfyrwyr Coleg Powys o’r adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Cyfryngau, Trin Gwallt a Busnes ynghyd a 4 o diwtoriaid a Tony Blunden (o Siawns Teg y sefydliad a drefnodd yr ymweliad) gadawodd y Drenewydd ar gyfer ymweld â Sofia, Bwlgaria.

Yn ystod y 2 wythnos yn Sofia, cawsant eu gosod mewn ysbytai, cartref preswyl ar gyfer yr henoed, ysgolion meithrin, asiantaeth deithio, cwmni ymgynghoriaeth busnes sy’n trefnu arddangosfa a salonau trin gwallt. Cymerodd y myfyrwyr ran lawn yn y lleoliadau gyda rhai yn  ddigon ffodus i fod yn dyst i enedigaethau, llawdriniaethau a gweithdrefnau meddygol. Buont yn  dysgu Saesneg mewn dosbarthiadau i blant ifanc, helpu i gynllunio a chadw golwg ar arddangosfa ar addysg prifysgol. Hefyd aethpwyd ar leoliadau ffilmio ar gyfer cylchgrawn a theledu i wneud gwallt a choluro, ac fe ddysgwyd llawer trwy gydol y 2 wythnos. Mae’r myfyrwyr cyfryngau wedi’u recordio popeth y bu’r  myfyrwyr yn ymwneud ag ef trwy dynnu llawer o luniau a gwneud DVD.

Nid gwaith oedd popeth yn ystod y 2 wythnos. Bu’r myfyrwyr ar daith gerdded o gwmpas Sofia, ymweld â gwindy yn Mehlnik y dref leiaf ym Mwlgaria, treulio noson allan mewn bwyty Bwlgareg traddodiadol gyda  cherddoriaeth a dawnsio a chyfarfod Randy Couture, seren yr Expendables a chyn-ymladdwr UFC. Roedd yn aros yn yr un gwesty  5* ynghyd â Sylvester Stallone.

Dywedodd Bronwen Davies o Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Roedd yn 2 wythnos heriol gyda llawer o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ond rydym wedi dysgu mwy nag yr oeddem erioed wedi dychmygu ac wedi gwneud ffrindiau newydd. Roedd yn gyfle unwaith mewn bywyd wna i byth anghofio.”

Sofia Students about to leave Newtown

Alexander Nevsky Cathedral

Students outside the Presidential Palace

Postiwyd hwn yn Busnes a Gweinyddiaeth, Cynhyrchu Cyfryngau, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Trin Gwallt a thagiwyd , , , , , , , , , , , , , , , , , , , . Llyfrnodi permalink.

Sylwadau wedi cau.