Lwythwch i lawr y Llyfryn Hyfforddiant Busnes
Hyfforddiant Busnes – Hydref 2011 (PDF, 355KB)
Cyrsiau Hyfforddiant i Fusnesau ledled Powys
Annwyl Gydweithiwr,
Croeso i rifyn hydref 2011 o Raglen Hyfforddiant Busnes Coleg Powys.
Yn ystod y tymor yma rydym yn cynnig amrywiaeth o gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol a chyrsiau hyfforddiant sy’n cyfarfod ag anghenion penodol diwydiant a’r Safonau Galwedigaeth Genedlaethol. Mae hyn yn cynnwys:
- Iechyd a Diogelwch
- Cymorth Cyntaf
- Diogelwch Bwyd a Deiliaid Trwydded Bersonol
- Gwasanaethau Cwsmer
- Arweinyddiaeth a Rheolaeth
- Amaethyddol- Seiliedig ar y Tir
- Cerbydau Modur
- Peirianneg Drydanol
- CGC yn y Gwaith
Mae gan yr Uned Datblygu Busnes yn y coleg crin arbenigedd mewn darparu hyfforddiant a datblygiad proffesiynol sy’n cyfarfod anghenion unigryw busnes a deddfwriaeth. Rydym yn defnyddio amrywiaeth o hyfforddwyr profiadol sydd ag ystod o arbenigedd technegol a rheolaeth o fewn eu meysydd penodol.
Mae’r rhan fwyaf o’r hyfforddiant yn digwydd o fewn ein hystafelloedd cynadledda pwrpasol, sydd fel rheol wedi’i lleoli ar y llawr isaf ac yn sicrhau mynediad hawdd i gynrychiolwyr sydd ag anableddau; darperir lifftiau ar gyfer yr ystafelloedd hynny na sydd wedi’i lleoli ar y llawr isaf. Yn ychwanegol, gwasanaethir ein hystafelloedd cynadledda gan ein hadran arlwyo ardderchog sy’n cynnig dewis o fwydlenni bwffe, te/coffi a diodydd eraill.
Ein bwriad yw darparu hyfforddiant o ansawdd uchel er mwyn i fusnesau lleol fedru cynyddu eu proffidioldeb trwy feithrin datblygiad proffesiynol effeithiol eu gweithwyr.
I gael mwy o wybodaeth ynglŷn ag unrhyw gymhwyster neu gwrs neu i ymholi am hyfforddiant pwrpasol ar gyfer anghenion busnes cysylltwch â’r Uned Datblygu Busnes os gwelwch yn dda.


Gwybodaeth bellach
I ddarganfod pryd y bwriedir cynnal ein cyrsiau nesaf cysylltwch â’r Uned Datblygu Busnes ar
0845 4086 274 neu trwy ddanfon e-bost bdu@coleg-powys.ac.uk.





