Y ffordd orau i gael gwybodaeth am Goleg Powys yw dod a gweld drosoch eich hunan. Medrir trefnu hyn drwy eich ysgol, eich cynghorydd gyrfaoedd, eich Canolfan Byd Gwaith leol neu drwy ffonio’r Coleg.
| Mai 2012 | |
![]() |
Noswaith Agored – Pob Safle (Y Drenewydd, Aberhonddu, Llandrindod, Ystradgynlais) Nos Fawrth, 15 Mai 2012, 4.30pm – 7.00pm Mae Coleg Powys yn cynnal ei Noswaith Agored ym mis Mai er mwyn caniatáu i fyfyrwyr, rhieni ac aelodau o’r cyhoedd i ddod i weld yr hyn a gynigir gan y Coleg. Mae’n amser delfrydol ar gyfer y rhai sy’n gadael yr ysgol yn y flwyddyn academaidd hon i gael gwybodaeth fanwl am y cwrs, i siarad â darlithwyr ac i gael edrych o gwmpas y Coleg. Mae’r noson hefyd yn gyfle i oedolion sy’n ddysgwyr i weld y dewisiadau addysg a hyfforddiant sydd ar gael iddynt. |






