Coleg Powys yw’r unig sefydliad sy’n darparu Addysg Bellach ym Mhowys. Ffurfiwyd y Coleg yn 1989 trwy gyfuno colegau yn Aberhonddu, Llandrindod a’r Drenewydd. Mae prif safleoedd y Coleg yn dal i fodoli yn y trefi yma. Yn ogystal mae gan y Coleg fferm ar gyrion y Drenewydd a safle dysgu ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd. Gwneir defnydd helaeth o leoliadau cymunedol ar gyfer gweithgaredd ymestyn allan ac un o’r lleoliadau yma yw’r Ganolfan sydd wedi’i lleoli yn Ystradgynlais. Trwy gytundeb lefel gwasanaeth gyda Chyngor Sir Powys, Coleg Powys sy’n gyfrifol am reolaeth Theatr Hafren , theatr sy’n llwyfannu perfformiadau proffesiynol gan gwmnïau lleol a chenedlaethol yn Y Drenewydd.
Rhennir y Coleg yn ddau ranbarth – Gogledd a De Powys. Dysgir y prif bynciau galwedigaethol yn y coleg ac mae’r rhanbarthau’n gyfrifol am y gweithgareddau addysgol yn y cymunedau cyfagos.
Mae tua 100 o ddarlithwyr llawn amser a nifer sylweddol o staff rhan amser yn gwasanaethu tua 7,500 o fyfyrwyr ymrestredig. Cefnogir y staff academaidd gan nifer o staff proffesiynol, gweinyddol a thechnegol sy’n cyfateb mewn niferoedd i gant o staff llawn amser. Mewn rhyw ffordd neu’i gilydd cyflogir dros 500 o bobl yn flynyddol gan y Coleg gan gynnwys gweithwyr amaethyddol a staff theatr. Pan ystyrir y ffaith mai ardal wledig yw Powys yn bennaf y Coleg yw un o’r cyflogwyr mwyaf o fewn y sir.
Coleg Powys yw’r prif adnodd o fewn y Sir ar gyfer addysg a hyfforddiant ol-16 ac o ganlyniad mae’n chwarae rôl sylweddol yn cefnogi datblygiad economaidd yng Nghanolbarth Cymru. Fel pob sefydliad Addysg Bellach arall mae’n annibynnol o Lywodraeth Leol ers 1993, ond yn parhau i weithio’n agos gyda llawer o fudiadau i ddarparu ystod eang o raglenni sydd eu hangen gan y cymunedau lleol; o gyrsiau gradd, Sgiliau Sylfaenol a chyrsiau hamdden. Mae staff arbenigol yn cydlynu ymateb y Coleg i’r angen am gyrsiau byr diwydiannol a masnachol, dysgu yn y gwaith, anghenion addysg arbennig, addysg oedolion a darpariaeth o fath arall.
Neilltuir pob aelod i ranbarth, er bod gweithgareddau traws safle yn cymryd lle o bryd i’w gilydd. Disgwylir i’r holl staff darlithio ymgymryd ag ystod o ddyletswyddau sy’n cynnwys dysgu ac asesi, llunio a datblygu cwricwlwm, cynghori a rhoddi arweiniad i fyfyrwyr, cysylltu a diwydiant a masnach, gweithgareddau hyrwyddo a gweinyddiaeth gyffredinol. Fel rheol gweithredir y goruchwylion yma ar y cyd gydag aelodau eraill o staff ac mae ymdrech tîm yn agwedd hanfodol o athroniaeth y Coleg.
Mae Coleg Powys yn sefydliad ffyniannus a deinamig sydd wedi arddangos tyfiant sylweddol a llwyddiant cynyddol ers ei gorfforiad. O safbwynt ei safonau trefniadaeth, ariannol ac ansawdd caiff ei ystyried yn y safle uchaf ymhlith sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru.





