Chwaraeon

Yng Ngholeg Powys credwn fod gan chwaraeon a hamdden ran bwysig yn lles cyffredinol myfyrwyr a’u profiad addysgol. Mae’r Coleg yn annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn weithgareddau chwaraeon ar brynhawniau Mercher ac mae ganddo dimau rygbi, trac a maes, hoci, pêl-droed a phêl-rwyd ar gyfer rhai sy’n dymuno cymryd rhan mewn chwaraeon cystadleuol.

Yn safle Aberhonddu mae pob tîm chwaraeon academi (hoci/pêl-rwyd, pêl-droed a rygbi) yn manteisio o sesiynau hyfforddi, dadansoddi perfformiad a rhaglen cryfder a chyflyru gynhwysfawr. Datblygwyd academi pêl-droed yn y Drenewydd ar gyfer bechgyn a merched mewn partneriaeth â Chwb Pêl-droed y Drenewydd.

Mae’r Coleg yn aelod o ‘Chwaraeon Colegau Prydain’. Mae nifer fawr o fyfyrwyr wedi ennill anrhydedd cenedlaethol mewn gwahanol chwaraeon drwy’r cysylltiad hwn. Yn ychwanegol, mae llawer o dimau’r Coleg wedi sicrhau llwyddiannau hynod yn lleol ac yn genedlaethol.

Pêl-droed yn Y DrenewyddPêl-rwyd yn Aberhonddu