
Mae Simon Pirotte wedi bod yn Bennaeth Coleg Powys ers mis Ebrill 2010. Ar ôl astudio Lefel A mewn ysgol Gyfun yn Abertawe, graddiodd o Brifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae ei astudio ôl-radd yn cynnwys Tystysgrif i Raddedigion mewn Addysg ym Mhrifysgol Nottingham a MSc ym Mhrifysgol Morgannwg.
Mae Simon wedi gweithio ym myd addysg am 24 mlynedd ac mae ei brofiad yn cynnwys cyflogaeth mewn ystod o ysgolion uwchradd 11-18 yng Nghymru, Lloegr a’r Unol Daleithiau. Mae hefyd wedi gweithio ym Mhrifysgol Athrofaol Cymru, Caerdydd ac mewn pedwar o Golegau Addysg Bellach drwy Gymru.
Mae Simon wedi ymrwymo i ddarparu rhagoriaeth ar gyfer pob dysgwr. Trwy gydol ei yrfa, mae wedi gweithio’n ddiflino i helpu dysgwyr i gyrraedd y safonau uchaf posibl. Mae’n adrodd ei straeon llwyddiant, yn eiddgar ond dim ond fel prawf o’i ymroddiad i addysg ai gred ddidwyll ym mhotensial diderfyn pobl o bob oed i drawsnewid eu bywydau drwy addysg.
Yng Ngholeg Gorseinon, sydd bellach yn rhan o Goleg Gwyr, Abertawe, enillodd ei dîm gradd 1 Estyn yn 1994. Llwyddodd Simon a’i dîm i gynnal y safon ac fe’u gwobrwywyd gyda dwy radd 1 pellach yn 1998 a 2002. Mae wedi dysgu Lefel “A” a chymwysterau galwedigaethol. Gadawodd Simon Gorseinon gyda chyntaf nodedig: nid yn unig roedd cyfradd llwyddiant A i C ei ddosbarth Lefel A yn 100% ond enillodd pob un o’i fyfyrwyr farciau llawn yn eu modiwl ymarferol. Mae llawer o’i fyfyrwyr wedi symud ymlaen i astudio mewn colegau drama enwog gan gynnwys RADA a’r Guildhall.
Tra’n Gyfarwyddwr Cyfadran yng Ngholeg Abertawe, y roedd yn gyfrifol am y tîm Lletygarwch ac Arlwyo. Dyfarnwyd iddynt radd 1 gan Estyn – gwelliant sylweddol o’r radd 3 a ddyfarnwyd cyn ei benodiad. Fel Dirprwy Bennaeth yng Ngholeg Pen-y-bont, cyfrannodd at welliant sylweddol mewn safonau ac arweiniodd hyn at 6 o’r 8 maes dysgu yn arolygiad Estyn yn 2009 yn cyflawni gradd 1. Cyflawnodd y ddau faes arall radd 2.
Mae Simon, sydd bellach yn un o drigolion Powys, yn credu y dylai pob dysgwr mewn amgylchedd gwledig gael yr un cyfleoedd â’u cyfoedion mewn lleoliadau trefol mwy. Mae’n gyffrous gyda’r cyfle i ddod a’i weledigaeth ar gyfer dysgwyr i Bowys a ddywedodd;
“Rwyf wrth fy modd fod y staff yng Ngholeg Powys mor ymroddedig felly i ‘n datganiad o genhadaeth newydd, ‘Cyflawni rhagoriaeth ym mhopeth a wnawn’. Mae gennym rai o’r cyfraddau cwblhau yn llwyddiannus gorau yn y sector. Bob dydd rwy’n rhyfeddu gyda chyflawniad rhagorol ein staff a dysgwyr. Yn y flwyddyn academaidd 2009/10, cyflawnodd 34 o’n myfyrwyr rhagoriaeth driphlyg ar lefel y Diploma Cenedlaethol; sy’n cyfateb i 3 gradd A yn y Safon Uwch. Yn yr un cyfnod tua symudodd tua 680 o ddysgwyr ym Mhowys ymlaen i Addysg Uwch. Roedd 256 o’r rhain yn ddysgwyr o Goleg Powys. Mae fy nhîm rheoli yn rhannu’r weledigaeth yr wyf wedi ymrwymo iddi ac, fel fi, mae ganddynt flynyddoedd lawer o brofiad o ddarparu pynciau galwedigaethol ac academaidd o safon uchel. Yr wyf yn awyddus bod Coleg Powys, ynghyd â’n hysgolion partner, yn chwarae ei rhan i sicrhau ein bod yn darparu addysg o’r radd flaenaf i bobl Powys”.





