Mae Coleg Powys yn croesawu pob aelod o’r gymuned ac mae ganddo ymrwymiad i sicrhau cydraddoldeb i bob myfyriwr beth bynnag eu hoedran, anabledd, rhyw, hil, crefydd a chredo neu dueddfryd rhywiol. Mae gan y Goleg ymrwymiad i gydraddoldeb a bydd yn ymdrechu i sicrhau y caiff gwahaniaethu ei herio a’i ddileu wrth i ni ddarparu gwasanaethau. Yn ogystal ag atal gwahaniaethu, mae’r Cyngor yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn rhagweithiol wrth fonitro effeithiau unrhyw weithgareddau ar wahanol grwpiau ac ymgynghori gyda myfyrwyr, staff a rhanddeiliaid. Cyhoeddir Poilisïau a Chynlluniau Cydraddoldeb ar y wefan.
Hygyrchedd
Byddwn yn anelu, lle bynnag y bo modd, i ddiwallu anghenion ein dysgwyr drwy wneud addasiadau rhesymol i bob agwedd o’r Coleg er mwyn osgoi anfantais sylweddol i unrhyw ddysgwr anabl. Os hoffech gopi o’n Datganiad Anabledd neu wybodaeth bellach am fynediad a chefnogaeth ar gyfer eich astudiaethau, cysylltwch â’r Rheolwr Dysgu Cynhwysol os gwelwch yn dda.
Cyswllt:
Rheolwr Dysgu Cynhwysol 0845 4086 320
learning-support@coleg-powys.ac.uk





