Cynaliadwyedd

Green Dragon Environmental StandardEnillodd Coleg Powys Safon Amgylcheddol lefel 2 y Ddraig Werdd ym mis Rhagfyr 2009 ac mae’n awr yn brysur yn gweithio tuag at y safon lefel 3. Fel rhan o’r paratoadau i ennill y safon amgylcheddol mae’r Coleg wedi cyflwyno ei bolisi ei hunan ar gynaliadwyedd, sydd ar gael ar y wefan. Yn y polisi yma mae’r Coleg yn amlinellu ei dargedau ar gyfer gostwng ei ôl-troed carbon. Gwnaeth y Coleg gynnydd da i gyrraedd y targedau hyn ond mae angen eich help i gadw’r momentwm.

Pethau y medrwch eu gwneud i helpu’r Coleg i barhau i ostwng ei ôl-troed carbon yw:

  • Gostwng defnydd ynni – troi goleuadau, cyfrifiaduron, monitorau ac eitemau trydanol eraill i ffwrdd pan nad ydynt yn cael eu defnyddio a rhoi gwybod am namau y sylwch arnynt.
  • Ailgylchu – defnyddio’r biniau a roddwyd ar gyfer caniau, poteli a phapur.
  • Osgoi gwastraffu papur – meddyliwch cyn argraffu!!
  • Defnyddio cludiant y Coleg/gwasanaeth cyhoeddus i deithio i’r Coleg ac oddi yno lle bynnag sydd modd neu rannu ceir.

Mae gan Goleg Powys ymrwymiad i greu amgylchedd mwy cynaliadwy ar gyfer ei ddysgwyr a’istaff ond mae’n sylweddoli mai dim ond gyda chefnogaeth pawb y gall gyflawni hyn.