Cynllun Yr Iaith Gymraeg

Cynllun Yr Iaith Gymraeg 2011-2014

Crynodeb o’r Ymrwymiadau i’r Cynllun Iaith Gymraeg

Cyflwyniad

Mae Coleg Powys yn gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg statudol yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Mae’r Coleg, trwy weithredu ei Gynllun Iaith Gymraeg yn anelu:

  • I drin yr ieithoedd Cymraeg a Saesneg ar sail gyfartal a pharhau i ddarparu a datblygu gwasanaethau o ansawdd uchel drwy’r ddau gyfrwng.
  • Datblygu ymhellach gynnig o gwricwlwm sy’n eang, hyblyg, ymatebol a dwyieithog i gefnogi anghenion y gymuned a diwydiant.
  • I sicrhau bod aelodau’r cyhoedd yn cael y cyfle a’r hawl i ddewis yr iaith yr hoffent ei defnyddio wrth gynnal busnes gyda’r Coleg.

Rhoi cyhoeddusrwydd, hybu a datblygu ymhellach ethos dwyieithog yn y Coleg, gan ddangos ei ymrwymiad i Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Enghreifftiau o’r hyn a fedrir ei wneud i wella’r ddarpariaeth o wasanaeth yn yr iaith Gymraeg

Polisïau a Mentrau Newydd

Ers ymgorffori, mae’r Coleg wedi datblygu ystod gynhwysfawr o bolisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud â natur a chwmpas ei weithgareddau. Mae’n debygol y llunir nifer o bolisïau newydd a mentrau yn ystod oes y Cynllun Iaith Gymraeg presennol.

Wrth i bob polisi gael ei adolygu, asesir y canlyniadau ieithyddol yn erbyn fframwaith iaith sy’n

  • hyrwyddo ac yn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg lle bynnag y bo modd
  • gwneud cynnydd tuag at gyflawni’r egwyddor o gydraddoldeb rhwng y ddwy
    swyddogol yng Nghymru
  • sicrhau cysondeb â Chynllun Iaith Gymraeg y Coleg

Bydd y coleg yn sicrhau nad yw unrhyw bolisïau newydd neu ddiwygiedig yn tanseilio’r Cynllun Iaith Gymraeg

Asesir pob polisi newydd, gweithdrefnau a mentrau yn erbyn yr un fframwaith. Ni fabwysiadu’r unrhyw  bolisi newydd, gweithdrefn neu fenter heb gynnal yr asesiad yma a’i ddogfennu.

Bydd unrhyw gynigion a fyddai’n effeithio ar Gynllun Iaith Gymraeg y Coleg, neu gynllun unrhyw sefydliad arall, yn destun ymgynghori â Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac ni wneir unrhyw newidiadau heb gymeradwyaeth y Bwrdd.

Bydd y trefniadau sy’n ymwneud â pholisïau a chynlluniau newydd yn cael ei wneud yn hysbys i’r holl staff priodol fel rhan o’r polisi sefydlog ynglŷn â llunio a gweithdrefnau adolygu.

Bydd unrhyw drefniadau a wneir gan y Coleg i gomisiynu neu ddefnyddio trydydd parti i ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd ar ei ran yn nodi yn y trefniadau eu bod yn cydymffurfio â Chynllun Iaith Gymraeg y Coleg.

Bydd y coleg yn monitro gweithrediad pob trydydd parti o’r gofynion yn unol â’r cyngor a amlinellir yn nogfen ByIG ‘Contractio allan Gwasanaeth Cyhoeddus contractau a’r Iaith Gymraeg.’

Delio â’r Cyhoedd sy’n Siarad Cymraeg

  • Mae’r Coleg yn croesawu gohebiaeth gan y cyhoedd yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan gynnwys llythyrau, ffacs, ac e-bost. Bydd  llythyrau a dderbynnir yn Gymraeg yn derbyn ateb wedi’i lofnodi yn Gymraeg. Bydd yr amser targed ar gyfer ymdrin â llythyrau’r un fath beth bynnag fo’r iaith.
  • Bydd y Coleg yn cychwyn gohebiaeth ddwyieithog os nad yw iaith y derbynnydd yn hysbys.
  • Bydd pob aelod o staff yn defnyddio llofnod electronig dwyieithog a bydd  troedyn  sy’n esbonio’r  cyfleoedd i’r cyhoedd i gyfathrebu yn Gymraeg yn ymddangos ar yr holl negeseuon a ddanfonir.
  • Anogir staff i ateb y ffôn gyda chyfarchiad dwyieithog a bydd y negeseuon a chyfarchion ar Negeseuon Llais y Coleg yn ddwyieithog.
  • Gall aelodau o’r cyhoedd gyrchu gwybodaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg ar wefan y Coleg.
  • Bydd hysbysebion a gwahoddiadau i fynychu cyfarfodydd cyhoeddus yn gofyn i’r cyhoedd i roi gwybod i’r Coleg os ydynt yn dymuno cyfrannu yn y Gymraeg fel y gellir gwneud trefniadau priodol ar gyfer cyfieithu. Os yw cyfranogwr yn dymuno siarad yn Gymraeg ond heb hysbysu’r Coleg ymlaen llaw comisiynir siaradwr Cymraeg ar fyr rybudd, lle bo hynny’n bosibl, er mwyn darparu gwasanaeth cyfieithu olynol.

Wyneb Cyhoeddus y Coleg

  • Mae Hunaniaeth Gorfforaethol y Coleg yn gwbl ddwyieithog
  • Mae’r holl arwyddion a hysbysiadau, parhaol neu dros dro, a gynhyrchir gan neu ar ran y Coleg yn ddwyieithog ac yn parchu’r egwyddor o  gydraddoldeb. Lle mae’r arwyddion Cymraeg a Saesneg ar wahân, byddant yn gyfartal o ran maint, siâp, ffurf, ansawdd ac amlygrwydd.
  • Bydd y Coleg yn sicrhau bod yr holl holiaduron a deunydd esboniadol a ddefnyddir yn fewnol neu a gyhoeddir i’r cyhoedd yng Nghymru yn gwbl ddwyieithog. Pan gynhyrchir ffurflenni ar wahân yn y  Gymraeg a’r Saesneg, bydd pob un yn cynnwys datganiad bod ffurflen ar gael yn yr iaith arall. Pan gyhoeddir fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, cyhoeddir hwy ar yr un pryd, dosbarthu’r hwy  gyda’i gilydd a byddant yr un mor hygyrch.
  • Bydd pob math o hysbysebu gan y coleg i ymddangos yng Nghymru yn unig yn ddwyieithog. Mae hyn yn berthnasol i hysbysebion ar gyfer myfyrwyr, staff a gwasanaethau eraill y coleg.
  • Bydd pob math o gyhoeddusrwydd gan y coleg gan gynnwys arddangosfeydd ac ymgyrchoedd marchnata, i ymddangos yng Nghymru yn unig yn ddwyieithog.
  • Pan fydd aelodau o’r cyhoedd yn ymateb i hysbyseb dwyieithog yn gofyn am wybodaeth bellach, bydd hyn yn cael ei ddarparu naill ai yn ddwyieithog neu yn ei iaith ymateb.
  • Anogir staff sy’n rhugl yn y Gymraeg i wisgo bathodynnau ‘Yr Iaith ar Waith’ sy’n nodi eu gallu i ddelio ag ymholiadau yn Gymraeg.
  • Mae Coleg Powys yn ymrwymedig i annog a chefnogi staff i ddysgu neu wella eu gallu i siarad Cymraeg. Bydd pob aelod newydd o staff yn derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith trwy’r rhaglen sefydlu staff.

Monitro

Bydd  Grŵp Llywio’r Iaith Gymraeg, ynghyd â’r Swyddog Iaith Gymraeg, yn monitro’r cynnydd a wnaed tuag at weithredu’r Cynllun Iaith Gymraeg. Mae gweithrediad y cynllun yn gyfrifoldeb Penaethiaid a Dirprwy Benaethiaid Cyfadrannau a Rheolwyr Gweithredol.

Bydd y Coleg yn darparu adroddiad blynyddol ar y cynnydd a wneir gyda gweithredu’r cynllun i Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Mesurir perfformiad yn erbyn safonau a thargedau penodol.

Cwynion

Mae gweithdrefn gwyno’r coleg wedi ei chynllunio i gwmpasu pob math o gŵyn. Bydd unrhyw gwyn ynghylch gweithredu’r cynllun yn defnyddio’r weithdrefn safonol hon.

Mae’r Coleg yn croesawu awgrymiadau ar gyfer gwella’r gwasanaethau a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg. Gall aelodau o’r cyhoedd gyflwyno eu cwynion naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg a byddant  yn derbyn ymateb o fewn yr un amserlen.

Gwybodaeth Bellach

Crynodeb yw hwn o’r Cynllun. Mae copïau o’r Cynllun ar gael ar Fewnrwyd y Coleg a’r Wefan neu trwy gysylltu â’r Swyddog Iaith Gymraeg.

Manylion Cyswllt

David Jones
Swyddog Iaith

Coleg Powys
Ffordd Llanidloes
Y Drenewydd
Powys

Ffôn 0845 4086 261
E-bost david.jones@coleg-powys.ac.uk