Mae’r Coleg yn gweithio i ddarparu a chynnal amgylchedd dysgu sy’n iach a diogel i bawb. Yn unol â hynny, mae cydweithrediad yr holl fyfyrwyr ac aelodau’r cyhoedd yn ofyniad allweddol. Yn ystod anwythiad ac wedyn cewch eich cynghori am y gwahanol ofynion a rhaid cydymffurfio â hyn ar bob amser. Rhaid defnyddio offer, dillad ac esgidiau diogelwch yn yr holl amgylchiadau perthnasol a dilyn gweithdrefnau diogelwch.





