Coleg Powys serves the community by providing and promoting learning opportunities throughout life

Learning Support
Gwasanaethau Myfyrwyr English
Gwasanaethau Myfyrwyr

Gwybodaeth Ddefnyddiol a Chysylltiau i fyfyrwyr sy'n cychwyn yn mis Medi 2006


Ffioedd a Grantiau

Nid yw myfyrwyr amser llawn 16-18 oed yn talu unrhyw ffioedd yng Ngholeg Powys. Medr myfyrwyr 16, 17 a 18 oed wneud cais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Danfonir ffurflenni cais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA) allan pan fyddant ar gael.

Gall myfyrwyr amser llawn 19 oed a throsodd wneud cais am fwrsariaeth ffioedd er mwyn talu am eu ffioedd astudio. Gallant hefyd fod yn gymwys ar gyfer Grant Dysgu’r Cynulliad (19+). Danfonir ffurflenni cais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA) a Grant Dysgu'r Cynulliad (ALG) allan pan fyddant ar gael.

"Cael fyny at £200 i ennill bywoliaeth dda"
Ceisio am i fyny at £200 tuag at gostau cwrs rhan amser

Rhaid i fyfyrwyr Addysg Uwch gysylltu â Chofrestrydd y Coleg ar gyfer yr arweiniad perthnasol ar y ffioedd cymwys a’r gofynion mynediad. Rhaid i fyfyrwyr tramor gysylltu â’r
Cofrestrydd ar gyfer y ffioedd a’r gofynion cysylltiedig y mae’n rhaid eu bodloni cyn cofrestru.

Cyllid Myfyrwyr Cymru


Cymorth Ariannol

Yn aml mae arian ar gael o dan wahanol gynlluniau megis costiau teithio, papur, ysgrifennu, gofal plant ac yn y blaen. Gofynnwch Gwasanathau Myfyrwyr am fanylion.

Mae gan fyfyrwyr ar gyrsiau Addysg Uwch wahanol drefniadau o ran ffioedd – cysylltwch â’r Cofrestrydd i gael arweiniad.


Cludiant

Mae’r Awdurdod Lleol yn darparu cludiant am ddim i bob myfyriwr 16-18 oed sy’n gymwys i’w gael ac mae tocynnau teithio gostyngedig ar gael i fyfyrwyr h˛n fel arfer. Anfonir ffurflenni cais ar gyfer cludiant gyda’r llythyrau sy’n cynnig lle ar gwrs.


Llety

Cymorth Ariannol gyda Chostau Llety

Os na chynigir cludiant bob dydd o’ch cartref ym Mhowys, efallai y byddwch yn gallu cael cymorth ariannol i dalu am gostau llety o ddydd Llun i ddydd Gwener. Telir y rhan fwyaf
o’r gost ar wahân i’r costau bwyd.

SYLWER: Rhieni fydd yn gyfrifol am ymddygiad y myfyriwr pan fydd yn y llety.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â i drafod llety neu faterion eraill:

Clare Morgan - Brecon - 0845 4086 401
Clare Morgan - Llandrindod - 0845 4086 401
Rosemary Denham - Newtown - 0845 4086 202

Mynediad i fyfyrwyr sydd ag anableddau

Mae Coleg Powys yn cynnig addysg i BOB myfyriwr. Mae gan y coleg lifftiau a thoiledau hygyrch yn ogystal ag offer arall wedi’i addasu ar y 3 phrif safle. Os hoffech gopi o’n datganiad anabledd neu wybodaeth bellach, cysylltwch ag:

Anne Evans - Rheolwraig Dysgu Cynhwysol - 0845 4086 320

Back to topBrig y Tudalen